'Haws codi potel na chodi'r ffôn am help' gydag alcohol

Dywedodd Rob Havelock bod y ffigyrau newydd yn "sobor o beth"
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yng Nghymru, yn ôl ffigyrau newydd.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd 562 o farwolaethau wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2023 - cynnydd o bron i 16% ar y flwyddyn flaenorol.
Roedd bron dwy ran o dair o'r marwolaethau yn ddynion.
Mae un dyn o Borthmadog sydd wedi byw â phroblemau alcohol a chyffuriau yn dweud fod y cyfnodau clo wedi effeithio ar nifer y bobl sy'n yfed, gan ddweud fod "lot o bobl wedi troi i alcohol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydweithio gyda byrddau iechyd er mwyn ceisio sicrhau bod nifer o wasanaethau mewn lle er mwyn ceisio cefnogi'r rhai sydd wedi profi problemau gydag alcohol".

Yn ddigartref, yn ddiwaith ac yn gaeth i alcohol a chyffuriau, mi oedd Rob Havelock, o Borthmadog, wedi colli pob gobaith
Ar Dros Frecwast fore Mercher, fe siaradodd Rob Havelock o Borthmadog am ei brofiad o fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau.
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddar, dywedodd ei fod yn "sobor o beth bod y ffigyrau mor uchel," gan ddweud fod y cyfnod clo wedi chwarae rhan yn y cynnydd.
Dywedodd fod "lot o bobl 'di troi at alcohol" yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Oedd o'n rhywbeth o'n ni'n gorfod 'neud bob dydd, o'n ni ddim yn teimlo'n hapus yn fy hun.
"Y ffordd hawsa i wella sut o'n ni'n teimlo oedd i golli fy hun yn cyffuriau a chwrw."
Aeth ymlaen i sôn fod ei broblem wedi mynd i'r eithaf: "O'n ni'n ddigartref a ballu, tan 'naeth hynna ddigwydd i fi i sylwi faint o ddrwg o'n ni wedi neud i fy hun ac i bobl arall."
'Codi'r ffôn oedd y cam cyntaf'
Yn ei achos ef dywedodd iddo "godi'r ffôn, dyna oedd y cam cyntaf i fi, i siarad 'efo rhywun".
"Mae o'n anodd codi'r ffôn, mae'n haws ar y pryd codi potal, dyna 'di'r peth trist amdano fo, ti mewn lle mor dywyll."
Erbyn hyn mae'n gweithio i Dŷ Penrhyn ym Mangor - sy'n helpu pobl sy'n gaeth i sylweddau dan gynllun North Wales Recovery Communities.
Dywedodd ei fod yn falch o'r gymuned sydd yno i gefnogi pobl sy'n delio â phroblemau tebyg.
"Da ni 'di ffeindio ffordd allan so da ni'n gorfod rhannu hynny 'efo pobl arall.
"Mond ni sy'n deall faint o ddrwg mae'n gallu bod."
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
Mae derbyniadau i ysbytai oherwydd alcohol ar gynnydd hefyd, gyda 12,236 o dderbyniadau yn cynnwys mwy nag 8,000 o unigolion. Oedolion dros 50 oed oedd y mwyafrif o'r achosion hynny.
Roedd y cyfraddau uchaf ym Merthyr Tudful (397 fesul 100,000 o bobl), dros ddwbl y gyfradd ym Mhowys, a oedd â'r derbyniadau isaf.
Dywed Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Athro Rick Lines fod "effeithiau defnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol yn parhau i fod yn bryder ar draws Cymru".
Dywedodd ei bod hi'n "bwysig cydnabod y risg o niwed hyd yn oed ymhlith y rhai nad oes angen gwasanaethau arnynt i gael triniaeth".
Dywedodd Helen Erswell, ymgynghorydd iechyd y cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r adroddiad hwn yn amlygu'r anghydraddoldebau iechyd amlwg yng Nghymru.
"Mae'n dangos bod materion yn ymwneud ag alcohol yn effeithio'n anghymesur ar unigolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
"Mae'n pwysleisio'r angen hanfodol am fuddsoddiad mewn mentrau sy'n canolbwyntio ar atal a all leihau risgiau iechyd yn y dyfodol, a fydd yn cefnogi bywydau hirach, iachach i bawb yng Nghymru yn y pen draw."
'Atal, trin a chefnogi'
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein hymagwedd at gamddefnydd o alcohol a chyffuriau yn canolbwyntio ar geisio atal, cynnig triniaeth, cefnogi'r rhai sy'n gwella, canolbwyntio ar ganlyniadau positif a cheisio lleihau'r niwed."
"Mi yda ni'n cydweithio gyda byrddau iechyd er mwyn ceisio sicrhau bod nifer o wasanaethau mewn lle er mwyn ceisio cefnogi'r rhai sydd wedi profi problemau gydag alcohol.
"Ma' hyn yn cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n ceisio cyrraedd y rhai mwyaf bregus."