Newid mewn prisio alcohol 'wedi gwthio yfwyr i wirodydd cryf'
- Cyhoeddwyd
Mae newid mewn prisio alcohol yng Nghymru wedi gwthio yfwyr trwm o seidr rhad i wirodydd cryf, yn ôl astudiaeth.
Cafodd isafbris o 50c yr uned ei gyflwyno ar gyfer alcohol ym mis Mawrth 2020.
Mae astudiaeth fach o yfwyr sy'n ddibynnol ar alcohol yng Nghymru wedi clywed bod rhai wedi troi at "brynu litrau o fodca" i gael "gwerth eu harian".
Mae'r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn dweud bod rhai yn mynd heb fwyd na gwres, yn troi at waith rhyw, neu'n dwyn er mwyn talu am ddiod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r gyfraith.
Mewn datganiad yn ymateb i'r adroddiad dywedodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, fod pobl sy'n prynu llai o alcohol rhad a chryf yn "gam positif tuag at leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a chefnogi pobl i yfed yn gyfrifol".
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017
Cafodd yr isafbris o 50c yr uned (MPA) ei gyflwyno yng Nghymru yn dilyn deddfwriaeth debyg yn Yr Alban.
Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher yn datgelu nad yw'r newid yn y gyfraith wedi cael fawr o effaith ar arferion yfed pobl yn gyffredinol.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022-2023) yn awgrymu bod 25% o ddynion a 10% o fenywod yn yfed mwy na'r canllawiau wythnosol sy'n cael eu hargymell, gydag arferion pobl yn newid o brynu cynhyrchion fel seidr rhad i brynu gwin a gwirodydd.
Yn ôl rhai manwerthwyr, mae rhai siopau wedi rhoi'r gorau i werthu poteli mawr o seidr - poteli dau, dri neu bum litr - wrth i'w gwerthiant ostwng yn sylweddol ar ôl i'r pris gynyddu.
'Cwrw gwan yn rhy ddryd'
Mae astudiaeth ar raddfa fach ar gyfer Llywodraeth Cymru, fu'n holi 138 o yfwyr trwm, wedi canfod mai dim ond nifer fach oedd yn dweud bod y cynnydd yn y pris wedi lleihau faint roedden nhw'n ei yfed.
Dywedodd llawer o yfwyr wrth ymchwilwyr bod y prisiau wedi "gwthio yfwyr sy'n ddibynnol ar alcohol tuag at ddiodydd cryfach, yn enwedig fodca".
Yn ôl un, "mae pris yr uned wedi gwneud cwrw gwan yn rhy ddrud" ac mae felly wedi troi at "y stwff caletach er mwyn cael gwerth am arian".
Mae'r argyfwng costau byw ac effaith y pandemig wedi gwaethygu'r effaith ar yfwyr incwm isel, "a'u harwain at flaenoriaethu alcohol dros gostau byw hanfodol", yn ôl yr adroddiad.
Ychwanegodd bod rhai yn "mynd heb fwyd neu dalu biliau".
Dywedodd gweithwyr cymorth alcohol wrth ymchwilwyr, tra bod cyfyngiadau yn y polisi o ran atal yfed niweidiol, yr hoffen nhw weld yr isafswm pris yn parhau er mwyn atal gwerthiant alcohol rhad.
Mewn datganiad, dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant bod y gwerthusiad yn awgrymu "cytundeb bron yn unfrydol ymhlith darparwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol na ddylid diddymu'r isafsbris".
"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y ddeddfwriaeth wedi cael effaith ar werthu cynnyrch alcohol rhad, cryfder uchel, gyda phrisiau'n cynyddu sy'n arwain at gwsmeriaid yn prynu llai o'r math hwn o gynnyrch, a llai o fanwerthwyr yn eu cadw mewn stoc.
"Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a chefnogi pobl i yfed yn gyfrifol yng Nghymru."
Ychwanegodd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal i'r polisi.