Heddlu Dyfed-Powys i flaenoriaethu helpu dioddefwyr camdrin

 Ifan Charles, Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed PowysFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Charles ydy Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys yn dweud mai helpu pobl sy'n dioddef camdrin domestig a lleihau troseddau gwledig fydd ei flaenoriaethau fel pennaeth y llu.

Ym mis Medi fe gyhoeddodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, mai Ifan Charles oedd yr ymgeisydd oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer y swydd.

Fe gadarnhaodd y llu yr wythnos diwethaf fod y penderfyniad hwnnw wedi ei gymeradwyo gan y Panel Heddlu a Throsedd.

Mae'n olynu'r Dr Richard Lewis, wnaeth ymddiswyddo yn gynharach eleni, ac mae Mr Charles wedi bod yn neud y swydd dros dro ers hynny.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael y swydd yn barhaol, dywedodd Mr Charles fod angen ymateb yn llawn cydymdeimlad i ddiwallu anghenion y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig.

"Fi'n credu fod hi'n bwysig iawn bod ni neud 'na mewn ffordd gydymdeimladol, â pharch a thegwch tuag at y bobl hynny a'r dioddefwyr," meddai ar Dros Frecwast.

"Mae'n glir o'r galwadau ni'n gael bod o [cam-drin domestig] yn cael effaith ar y dioddefwyr, ond hefyd y teulu a'r plant.

"Ni'n cael miloedd o achosion bob blwyddyn a mae'n glir bod rhaid i ni weithio gyda'n partneriaid i fod yn gydymdeimladol fel ni'n delio gyda pethau.

"Ond ni'n 'neud o hefyd gyda pharch a thegwch felly byddwn ni dweud bod o mor bwysig bod ni'n cael y rhan yna o'n gwaith ni'n iawn yn y dyfodol."

Siarad Cymraeg yn bwysig i'r llu

Dywedodd y Prif Gwnstabl y bydd yn rhoi sylw i droseddau cefn gwlad hefyd.

Fe fydd yn cwrdd â swyddogion o undeb amaeth yr NFU, meddai, gyda'r bwriad o "wella y gwasanaeth 'yn ni'n rhoi" a thrafod y strategaeth sydd gyda'r heddlu.

"Ma' isie i'r strategaeth gael llais y gymuned cefn gwlad, yn ganol popeth 'yn ni'n 'neud," meddai.

Bydd ffocws penodol hefyd ar yr iaith Gymraeg yn y llu, gyda'r Prif Gwnstabl yn dweud bod swyddogion sy'n ddwyieithog yn hanfodol i'r ardal.

Mae hynny'n dilyn esiampl y cyn-brif gwnstabl Richard Lewis, a ddywedodd ei fod eisiau i'r llu fod yn "hollol ddwyieithog".

"Mae'n bwysig iawn bo' ni'n gallu siarad gyda pobl yn y Gymraeg," meddai Mr Charles.

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i sicrhau bod pawb sy'n gweithio i'r llu yn "gallu dweud helo" ac yn gallu delio gyda phroblemau pobl yn y Gymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig