Cyhoeddi hediadau newydd o Gaerdydd i Toronto o fis Mai 2026

awyren westjetFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y gwasanaeth newydd yn "cynnig cyfleoedd newydd i dwristiaeth a masnach," yn ôl Maes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd modd hedfan yn uniongyrchol rhwng Cymru a Chanada o fis Mai 2026, wrth i WestJet gyhoeddi gwasanaeth newydd o Faes Awyr Caerdydd i Toronto.

Bydd y gwasanaeth ar gael o 23 Mai y flwyddyn nesaf, gyda phedwar hediad yr wythnos i Faes Awyr Toronto Pearson.

Dyma fydd y gwasanaeth cyntaf rhwng Cymru a Chanada ers bron i 20 mlynedd.

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd fod y cysylltiad newydd yn garreg filltir bwysig yn ei adferiad ar ôl y pandemig, gyda niferoedd teithwyr yn codi tuag at 1,000,000 y flwyddyn.

'Agor cyfleoedd economaidd newydd'

"Mae'r llwybr newydd hwn yn gam mawr ymlaen wrth ailgysylltu Cymru â Gogledd America," meddai prif weithredwr y maes awyr, Jon Bridge.

"Mae'n adlewyrchu'r galw cynyddol am deithio rhyngwladol o'n rhanbarth ac yn cynnig cyfleoedd newydd i dwristiaeth a masnach."

Dywedodd Chris White-DeVries o WestJet fod y cwmni'n gweld "potensial enfawr" yn cysylltu Toronto yn uniongyrchol â Chaerdydd, gan ddisgrifio'r fenter fel ffordd o agor Cymru i fwy o deithwyr o Ganada.

Croesawodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, y cyhoeddiad, gan ddweud y byddai'r llwybr yn "agor cyfleoedd economaidd newydd" gyda marchnadoedd yng ngogledd America.

Daw'r gwasanaeth newydd wrth i Ganada baratoi i gyd-gynnal Cwpan y Byd 2026, gyda'r maes awyr yn dweud y bydd y cysylltiad yn hwyluso teithio i gefnogwyr o Gymru ar adeg brysur o'r flwyddyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig