Ymchwilio i ymosodiad rhywiol difrifol mewn parc

Heddlu ym mharc Splot
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ymosodiad rhywiol difrifol mewn parc yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Splot tua 03:25 fore Sul ar ôl i'r dioddefwr, menyw, alw ar aelod o'r cyhoedd.

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Kath Barry fod y dioddefwr "yn cael ei chefnogi gan swyddogion arbenigol" a bod "ymholiadau i ddeall yr hyn ddigwyddodd" yn mynd rhagddynt.

Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig