Parhau i chwilio am ddyn sydd ar goll ar Yr Wyddfa

KieranFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kieran ei weld am y tro diwethaf toc cyn 12:00 ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae timau achub yn parhau i chwilio am ddyn sydd ar goll ar Yr Wyddfa am ail ddiwrnod.

Cafodd Kieran ei weld am y tro diwethaf toc cyn 12:00 ddydd Llun yn ardal Bwlch Glas ger Llwybr Pyg.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd, mae'n gwisgo cot cuddliw ac mae ganddo farf dywyll.

Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Parry: "Yn anffodus, mae Kieran yn parhau ar goll, ac nid ydym wedi derbyn unrhyw adroddiadau pellach ohono ar ôl hanner dydd ddoe.

"Mae'r chwilio'n parhau heddiw ochr yn ochr â'r Tîm Achub Mynydd, NPAS a Gwylwyr y Glannau.

"Rwy'n parhau i annog unrhyw un a oedd yn cerdded yn yr ardal ddoe i wirio eu lluniau am Kieran, ac unrhyw un a allai fod wedi'i weld o 07:00 ymlaen i gysylltu â ni."

Mae'r llu hefyd yn apelio ar grŵp o gerddwyr a welodd Kieran cyn 12:00 dydd Llun i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig