Wyn Davies: 'Fe ddylai pob Cofi ei weld fel arwr'

Wyn Davies yn chwarae i Manchester United
- Cyhoeddwyd
Mae cwrdd â'ch arwr yn foment arbennig iawn, ond mae hyd yn oed yn fwy arbennig pan mae'r arwr yn troi'n ffrind.
Fe dyfodd Jason Parry i fyny yn edmygu'r diweddar Wyn Davies fel pêl-droediwr.
Er bod Jason yn rhy ifanc i gofio Wyn yn chwarae yn y 1960au, roedd atgofion ei 'Yncl Gerald' yn sôn am ei ddoniau yn ddigon i swyno unrhyw fachgen bach oedd wrth ei fodd â phêl-droed.
Bu farw Wyn Davies yn 83 oed ddydd Iau gan adael bwlch mawr yng nghalonnau pobl Caernarfon, oedd â choffa da amdano.
Jason Parry yn hel atgofion am Wyn Davies
"Fe ddylai Wyn fod yn arwr i bob Cofi," medd Jason Parry ar raglen Ar y Marc, BBC Radio Cymru fore Sadwrn.
Mae gan Jason a Wyn cymaint yn gyffredin, a daeth y ddau yn ffrindiau dros y blynyddoedd yn nhref Caernarfon.
"Nes i ddod i wybod am Wyn drwy fy ewythr, Gerald," meddai Jason. "Roedd Ger yn bêl-droediwr go-lew yn ei hun a chwarae i lot o dimau ar draws Gogledd Cymru, ac roedd o wedi chwarae adeg Wyn, a 'naeth o ddangos fideos o'i yrfa fo yn y cychwyn.
"Ar ôl gweld a gwrando ar storïau Ger, nes i ddisgyn mewn cariad efo'r boi a'r agwedd oedd gyno fo ar y cae pêl-droed.
"Roedd gyno ni lot yn gyffredin. Roedd o 'di cael ei eni ym Maes Barcer a finna' yn Ffordd Pandy ar dop stâd Sgubor Goch.
"Ffaith fod o wedi mynd syth i'r top, Cofi Dre oedd o i'r carn a 'di mynd holl ffordd i glybia fel Newcastle, Bolton, Man Utd a Man City.
"Dwi'n teimlo ddylsa fo fod yn arwr i bawb yn Caernarfon ddeud gwir."
Gyrfa The Mighty Wyn
Dechreuodd Wyn Davies ei yrfa bêl-droed yn chwarae gyda chlybiau lleol yn ardal Caernarfon, gan gynnwys Deiniolen a Llanberis.
Cafodd ei arwyddo gan glwb Caernarfon, ac yno y dechreuodd ei ddawn o flaen y gôl ddenu sylw clybiau proffesiynol.
Fe ymunodd â Wrecsam ar ddechrau'r 1960au, cyn symud i Bolton Wanderers yn 1962.
Sgoriodd Wyn 66 gôl mewn 155 gêm gynghrair i Bolton cyn symud i Newcastle United am £80,000 ym 1966 - pris oedd yn record i'r clwb ar y pryd.
Daeth yn arwr ar Barc St James oherwydd ei ymroddiad ar y cae gyda'r Toon Army yn ei alw'n 'Wyn the Leap' a 'The Mighty Wyn' oherwydd ei ddoniau yn yr awyr.

Wyn, ar y dde yn y rhes gefn, yn chwarae i Gymru
"Myth oedd o i fi: Y Wyn Davies, Wyn the Leap. Enwog iawn, chwarae 34 gwaith a sgorio chwe gôl i Gymru.
"Ro'n i'n torri gwallt yng Nghaernarfon, oedd gyno fi siop yna am flynyddoedd a'i deulu fo i gyd yn dod i mewn i dorri'u gwalltia'. Ro'n i'n sgwrsio efo'i deulu amdano fo a mod i yn meddwl y byd ohono fo.
"Peth nesa dyma fo'n dod drwy ddrws y siop a nes i droi rownd a'i weld o.
"Wyn Davies ydi hwn. Roedd o'n foi mor neis, dim byd mawreddog amdano. Yn syth naethon ni glicio.
"Be' oedd yn grêt am Wyn, roedd o wrth ei fodd yn sefyll o flaen cwsmeriaid fi yn deud ei storis, ac o'n i wrth fy modd gwrando ar ei storïau o.
"Roedd o'n lyfli o foi.
'Gŵr bonheddig'
"Un stori wna'i byth anghofio – ac Yncl Ger ddudodd hon wrtha i ac fe wnaeth Wyn gadarnhau fod hi'n wir wedyn.
"Yn Sgubor Goch mae 'na gae. Cae Top oddan ni'n galw hi - a dyna lle gafodd C'mon Midffîld ei ffilmio.
"Bob dydd Sul roedd 'na griw o hogia'r stâd yn dod at ei gilydd i gael gêm. Un penwsos dyma Wyn Davies a Tommie Walley (o Gaernarfon, fu'n chwarae gydag Arsenal a Watford), yn troi fyny. Roedd Wyn wedi cael leave i fynd adra i weld ei fam cyn iddo chwarae i Gymru ar y nos Fercher.
"Naeth y ddau chwarae, ac yn ystod y gêm dyma Wyn yn mynd fyny am beniad a dyma fo'n taro ei ben yn erbyn rhywun a dyma ei ben o'n dechrau gwaedu. Dyma fo'n dod off y cae.
"Nos Fercher yn dŵad, roedd yr hogia i gyd oedd wedi chwarae efo fo yn gwrando ar y radio, achos radio oedd hi adeg yna, ac roedd y commentator yn deud...
'And here comes Wyn Davies sporting a bandage around his head, and this is due to a DIY accident he had when visiting his family in Wales recently.'
"Ond chwarae ffwtbol yn Cae Top oedd Wyn efo'r hogia."
Yn 2018 fe ddadorchuddiwyd plac iddo ym Maes Barcer lle cafodd ei fagu i nodi ei lwyddiant.
Dyma'r pêl-droediwr mwyaf dawnus i ddod o dref y Cofis yn ôl sawl un o wybodusion y gamp.
"Na' i byth anghofio Wyn, mae o yn arwr i fi, gŵr bonheddig, dyna sut y bydda i yn ei gofio fo," meddai Jason.
"Un llun sydd werth y byd i mi ydi'r llun o Wyn efo fy mab Richie.
"Mae Richie yn 22 rŵan ond roedd o tua naw neu 10 oed yn y llun yma yn chwarae i Bontnewydd. Fel oedd o'n cerdded fewn i siop, roedd Wyn yna.
"Ges i lun o'r mab efo Wyn ac mae'r llun yna werth mwy na unrhyw faint o bres i fi."

Wyn a Richie, mab Jason
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd22 Medi 2018
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl