Dadorchuddio plac i anrhydeddu Wyn Davies yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae un o sêr hanes pêl-droed Cymru, Wyn Davies, yn dychwelyd adref i Gaernarfon ddydd Sadwrn ar gyfer seremoni arbennig.
Mae plac a fydd yn nodi campau'r ymosodwr 6'2" yn cael ei ddadorchuddio yn ei dref enedigol.
Fe gafodd y seremoni ei chynnal yn Stadiwm yr Ofal cyn i Gaernarfon herio Llanelli yn Uwch Gynghrair Cymru.
Yn ystod ei yrfa fe lwyddodd Davies i ennill 34 cap dros ei wlad, yn ogystal â chwarae i glybiau yn cynnwys Newcastle United, Manchester City a Manchester United.
Y gorau o Gaernarfon
Dywedodd trefnydd y seremoni, Alun Davies: "Heb os, Wyn yw'r gorau o unrhyw gamp i ddod o Gaernarfon".
"Nid yn unig mae o'n arwr yma yn ei dref enedigol, ond mae o dal i fod yn ffigwr poblogaidd ymysg cefnogwyr Newcastle United, ar ôl iddo fod yn rhan o'r tîm a enillodd y Fairs Cup yn 1969."
Ychwanegodd: "Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i anrhydeddu ei gampau tra'i fod o dal yn fyw - a dangos iddo faint o feddwl sydd ohono dal i fod,".
Davies, sydd bellach yn byw yn Bolton, fydd y gŵr gwadd yn lolfa'r clwb yn dilyn y gêm, lle fydd darlun mawr ohono hefyd yn cael ei ddadorchuddio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018