Babi gafodd ei eni yn pwyso 11 owns wedi marw'n 19 mis oed - cwest

Llun o Robyn Chambers mewn bag yn yr ysbyty.Ffynhonnell y llun, Daniel Chambers
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cyrraedd pum mis yn gynnar fe gafodd Robyn ei chadw mewn bag brechdanau

  • Cyhoeddwyd

Bu farw babi, a gafodd ei gadw'n ddiogel mewn cwdyn brechdanau ar ôl cael ei eni yn pwyso 11 owns (328g), ychydig wythnosau ar ôl dychwelyd adref ar ôl 18 mis yn yr ysbyty, mae cwest wedi clywed.

Cafodd Robyn Chambers o Gasnewydd niwed i'w hymennydd ar ôl iddi gael ei geni yn 23 wythnos oed ym mis Mawrth 2023 yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân.

Roedd hi mor fach fel ei bod hi'n ffitio yng nghledr llaw a chafodd ei rhoi mewn bag brechdanau i gadw ei horganau'n gynnes tra'r oedd hi'n tyfu.

Tra'r oedd hi adref ym mis Hydref 2024, fe wnaeth lefelau ocsigen Robyn ostwng, ac ar ôl ychydig ddyddiau yn Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd, bu farw ar 2 Tachwedd yn Hosbis Plant Tŷ Hafan.

Llun o rieni Robyn Chambers, y tad Daniel ar y chwith a'i mam Chantelle ar y dde gyda Robyn ei breichiau.Ffynhonnell y llun, Daniel Chambers
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhieni Robyn, Chantelle a Daniel, wedi dod yn "bryderus iawn" am gyflwr Robyn ar 26 Hydref 2024.

Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, fod "methiannau" gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dilyn galwad 999 gan fam Robyn, ond daeth i'r casgliad bod Robyn wedi marw o achosion naturiol.

Clywodd y cwest fod rhieni Robyn, Chantelle a Daniel, wedi dod yn "bryderus iawn" am ei chyflwr ar 26 Hydref 2024.

Roedd lefelau ocsigen ei gwaed wedi gostwng i 50-60%, sy'n sylweddol isel, clywodd y cwest.

Fe wnaethon nhw ffonio ambiwlans, dywedon, ond ar ôl clywed y byddai'n rhaid aros wyth awr, fe aethon nhw â'u merch i'r ysbyty eu hunain.

"Roedd yn rhaid i ni gario Robyn allan am hanner nos yn y tywyllwch a'r oerfel," meddai'r crwner ar ran Chantelle a Daniel.

Methiant cofnodi

Dywedodd y crwner wrth y cwest ei bod wedi canfod bod "methiannau" gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru pan wnaeth rhieni Robyn yr alwad 999 y noson honno.

Roedd cofnod anghywir mewn ymateb i ymwybyddiaeth Robyn, meddai Caroline Saunders, a methiant i gofnodi lefelau ocsigen ei gwaed.

Byddai cofnod cywir wedi ysgogi clinigwr i sbarduno ymateb categori coch, meddai, sy'n golygu y byddai Robyn wedi cyrraedd yr ysbyty yn gynt gan mai'r amser targed ar gyfer ambiwlans o fewn y categori hwnnw yw wyth munud.

Fodd bynnag, dywedodd y crwner fod gan Robyn haint ar y frest eisoes a dywedodd na fyddai'r canlyniad wedi newid pe bai hi wedi cyrraedd yr ysbyty yn gynt.

Effeithau niwmonia'n 'llethol'

Roedd hi wedi datblygu niwmonia ac roedd yr effeithiau'n "llethol", meddai'r crwner.

Clywodd y cwest dystiolaeth gan Melanie Collier o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a ddywedodd fod newidiadau wedi'u gwneud i'r system.

Clywodd y cwest hefyd gan Gillian Pleming o'r gwasanaeth a ddywedodd y bu "nifer uchel o alwadau yn yr ardal" ar y pryd.

Er bod y dewis protocol o'r ddesg gymorth glinigol yn gywir, dywedodd Ms Pleming, doedd y categori ddim.

"Rwyf wedi fy sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwneud newidiadau," meddai'r crwner wrth y cwest.

Dywedodd Caroline Saunders y byddai'n ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch "oedi annerbyniol" wrth drosglwyddo cleifion, sy'n golygu na ellir rhyddhau ambiwlansys.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael cais am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig