Dirgelwch yn parhau ynghylch marwolaeth 'gŵr bonheddig' 18 oed

Cafodd Casey Frasier Coulton ei ganfod yn farw yn Nhachwedd 2022
- Cyhoeddwyd
Mae dirgelwch yn parhau ynghylch amgylchiadau marwolaeth dyn 18 oed y cafwyd hyd i'w gorff ar lannau Afon Taf, ym mis Tachwedd 2022.
Cafodd corff Casey Frasier Coulton ei ganfod naw diwrnod ar ôl cael ei weld am y tro diwethaf gan ffrindiau yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf.
Daeth Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Kerrie Burge, i gasgliad agored, gan ymddiheuro wrth aelodau o'r teulu a ffrindiau a oedd yn y gwrandawiad fore Llun.
"Mae'n ddrwg gen i fod casgliad agored weithiau'n eich gadael gyda chwestiynau nid atebion, ond ar ôl archwilio'r holl faterion yn y dystiolaeth, nid oes unrhyw gasgliad arall y gallaf ei gyrraedd," meddai Ms Burge.
Wrth nodi bod alcohol a chocên yn ei gorff, cafodd achos y farwolaeth ei nodi fel boddi.
'Tebygol' bod cyffuriau ac alcohol wedi cael effaith
Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd bod Mr Coulton wedi treulio'r noson ar 12 Tachwedd 2022 mewn parti pen-blwydd 18 oed.
Fe wnaeth profion tocsicoleg ganfod yn ddiweddarach ei fod wedi bod yn yfed ac yn cymryd cocên.
Yn ystod oriau mân y bore canlynol, 13 Tachwedd 2022, rhedodd Mr Coulton i ffwrdd o'r grŵp o ffrindiau yr oedd gyda nhw.
Cafodd ei weld am y tro diwethaf yn mynd tuag at orsaf drenau Cwmbach.
Dywedodd Ms Burge ei bod hi'n "credu ei fod yn debygol", fod Mr Coulton wedi mynd i'r dŵr yn fuan ar ôl iddo ddiflannu - o ystyried y diffyg CCTV na defnydd o'i ffôn ar ôl hynny.
"Roedd Casey wedi cymryd cyffuriau ac alcohol ac er nad oedd ar lefelau gwenwynig mae'n debygol i hynny effeithio ar ei ymatebion - naill ai cyn iddo fynd i'r dŵr, ar ôl hynny, neu'r ddau.
"Mae'n anoddach i mi benderfynu sut y daeth Casey i fod yn yr afon."
Ychwanegodd Ms Burge y gallai fod "wedi syrthio i mewn ar ddamwain".
"Roedd yn ymddangos iddo ymddwyn yn rhyfedd, gan redeg i ffwrdd o'r car," meddai.
'Gŵr bonheddig'
Clywodd y cwest hefyd am ddigwyddiad blaenorol o gymryd risg, pan neidiodd allan o ffenest ar lawr cyntaf adeilad ar ôl yfed a chymryd cocên.
Fe wnaeth y crwner hefyd gyfeirio at sïon bod rhywun arall yn rhan o'r digwyddiad.
Dywedodd Mr Burge na allai hi ddod i benderfyniad "yn seiliedig ar ddyfalu na phosibiliadau".
"Mae'n rhaid i mi ystyried yr hyn sy'n debygol, neu'n fwy tebygol na pheidio, o fod wedi digwydd a does dim digon o dystiolaeth i mi benderfynu ar sail tebygolrwydd sut y daeth Casey i fod yn y dŵr," meddai.
Ni wnaeth archwiliad post-mortem ddod i gasgliad pendant.
Dywedodd mam ei gariad, Charlie, fod Mr Coulton yn cael ei garu gan ei holl ffrindiau.
"Roedd Casey yn ŵr bonheddig caredig, cariadus ac anhunanol," meddai Joanne Edwards.
"Roedd ei gariad Charlie, ei brawd Nick, fi a fy mhartner Leighton yn ei garu.
"Rydym eisiau iddo gael ei gofio am ei natur garedig a gofalgar."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.