Menyw, 46, yn 'ffodus' ar ôl colli wyth bys a bysedd traed i sepsis

Dywedodd Katarzyna Gach (dde) fod achos Louise Marshallsay yn "unigryw"
- Cyhoeddwyd
Fe gyrhaeddodd Louise Marshallsay Ysbyty Treforys gyda charreg ar ei haren yn 2022.
Ond yn sydyn iawn fe waethygodd ei chyflwr a chafodd ei chludo i'r uned gofal dwys gyda sepsis.
Mewn achos "unigryw", bu'n rhaid tynnu pob un o'i bysedd - a phump o'i bysedd traed.
Yn sgil y llawdriniaeth, penderfynodd Ms Marshallsay, sy'n 46 oed ac o Abertawe, gael bysedd prosthetig.
Cafodd y bysedd eu creu trwy ddefnyddio modelau o ddwylo hyfforddwraig meddygol.

Dwylo Louise Marshallsay gyda bysedd prosthetig
Dywedodd Ms Marshallsay: "Dwi'n ffodus mai dim ond fy mysedd a bysedd traed gafodd eu heffeithio achos gallen i fod wedi colli fy mreichiau a choesau hefyd.
"Ar un adeg roedd fy holl ddwylo a fy holl draed yn ddu, felly dwi'n credu fy mod i'n ffodus taw dim ond rhannau o fy mysedd cafodd eu tynnu."
Mwy o achosion o'r fath ers Covid
Mae mwy o bobl yn gorfod derbyn triniaeth i dynnu bysedd a bysedd traed ers cyfnod y pandemig, yn ôl ymgynghorydd llawfeddygaeth plastig.
"Roedd Louise wedi bod ar yr uned gofal dwys am rai wythnosau ar gyfer sepsis," eglurodd Hywel Dafydd.
"Yn anffodus, er mwyn cael y driniaeth a'r cyffuriau cywir i achub bywyd Louise, doedd dim dewis ond rhoi'r cyffuriau er mwyn cadw ei horganau yn fyw.
"Y gost am hynny, wrth gwrs, yw bod y bysedd, bysedd traed ac ambell i waith, blaen y trwyn, yn dioddef o ddiffyg gwaed o ganlyniad i'r cyffuriau sy'n cael eu rhoi."

Mae mwy o bobl wedi bod yn ddifrifol wael ers y pandemig ac angen triniaeth dwys i drin sepsis, meddai'r llawfeddyg Hywel Dafydd
Ychwanegodd: "I berson fel hyn yn colli pob bys a rhai bysedd traed yn ogystal, dyw hi ddim yn rhy gyffredin ond ni yn gweld - ac yn enwedig yn sgil Covid - pobl sydd wedi cael y math yma o driniaeth eithafol yn yr uned gofal dwys sydd angen triniaeth ar gyfer tacluso eu bysedd i fyny.
"Ni wedi gweld mwy ers cyfnod y pandemig ac ers cyfnod y pandemig.
"Dwi'n credu achos ma' mwy o bobl wedi bod yn ddifrifol wael dros gyfnod byr o amser sydd angen y driniaeth ddwys yma i drin sepsis, lle mae gwaed yn symud o'r ymylon i achub yr organau mewnol - yr arennau, a'r galon a'r ymennydd."
'Achos unigryw'
Mae'r broses o wneud bysedd newydd yn un cymhleth iawn achos fel arfer bydd rhyw ffordd o gopïo bysedd o'r llaw arall, ond doedd dim modd gwneud hyn yn achos Ms Marshallsay.
Ar ôl cymryd sawl mowld o ddwylo Ms Marshallsay, fe gymerodd yr hyfforddwraig wyddoniaeth glinigol, Katazyna Gach, mowldiau o'i bysedd ei hun er mwyn creu'r bysedd prosthetig.
"Fe gymysgon ni baent silicon i greu'r lliw cywir i siwtio croen y claf," meddai Ms Gach.
"Roedden ni'n gallu cynnig gwahanol opsiynau ar gyfer yr ewinedd hefyd ac fe wnaethon ni nifer o fân newidiadau er mwyn sicrhau bod y bysedd yn ffitio'r dwylo'n gywir.
"Dyma oedd un o'r prosesau hiraf rydyn ni erioed wedi profi fel adran. Roedd hi'n achos unigryw."

Katarzuna Gach a Louise Marshallsay yn rhoi eu dwylo at ei gilydd
Ers colli ei bysedd, mae Ms Marshallsay wedi gorfod ail-ddysgu nifer o sgiliau syml ac addasu ei ffordd o fyw.
Penderfyniad cosmetig oedd hi i gael bysedd prosthetig, meddai, gan nad ydyn nhw'n ymarferol ar gyfer gwneud tasgau bob dydd fel coginio.
"Pan welais i'r bysedd am y tro cyntaf, doeddwn i ddim yn gallu credu. Maen nhw'n edrych fel bysedd," meddai.
"Mae'r migyrnau yn realistig ac mae Kat wedi ychwanegu'r gwythiennau hefyd.
"Efallai byddai rhai pobl yn teimlo'n anghyfforddus gyda'r holl beth, ond does dim ots gen i achos mae'r canlyniadau yn anhygoel.
"Galla'i ddim bod yn hapusach," meddai.