Teyrnged gefell wedi marwolaeth Cymro yng Ngwlad Thai

Corey BeavisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y teulu fod Corey yn "goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi gyda'i chwerthiniad heintus"

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Gymro fu farw yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yng Ngwlad Thai.

Bu farw Corey Beavis, oedd yn 28 oed ac yn dod o'r Barri, wedi'r gwrthdrawiad ddydd Sadwrn.

Fe gadarnhaodd y Swyddfa Dramor eu bod yn cefnogi teulu dyn o Brydain a fu farw yng Ngwlad Thai, a'u bod mewn cyswllt gyda'r awdurdodau yno.

Mae teulu Mr Beavis bellach yn ceisio codi arian er mwyn gallu cludo ei gorff yn ôl i'r Deyrnas Unedig.

'Cymeriad mawr, llawn cariad'

Dywedodd gefell Corey Beavis, Liam, eu bod wedi treulio pob eiliad posib gyda'i gilydd.

"Dwi'n falch fy mod i wedi rhannu pob atgof da yn fy mywyd gyda fy mrawd a fy ffrind gorau... Fe wnaeth o fyw ei fywyd i'r eithaf.

"Mi fydd hi'n anodd delio gyda'r golled a'r boen yma, ond dwi'n addo y byddaf yn gwneud fy ngorau i dy wneud yn falch ohonof," meddai.

Dywedodd y teulu mewn datganiad fod Corey yn "goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi gyda'i gymeriad mawr a'i chwerthiniad heintus".

"Roedd ganddo gymaint i'w gynnig, ond roedd o hefyd wedi byw bywyd ymhell y tu hwnt i'r hyn fyddai wedi gallu ei ddychmygu.

"Roedd yn berson gonest oedd yn llawn cariad i'r rhai oedd yn ei adnabod."

Pynciau cysylltiedig