Mwy o waith papur yn rhoi llai o amser i filfeddygon drin anifeiliaid

Gwartheg fferm Blaenffynnon
Disgrifiad o’r llun,

Gwartheg fferm Blaenffynnon yn aros am archwiliad gan y milfeddyg

  • Cyhoeddwyd

Fe allai effaith prinder milfeddygon gael effaith "wir negyddol" ar iechyd a lles anifeiliaid, yn ôl milfeddyg yng ngorllewin Cymru.

Mae Cymdeithas Filfeddygol y BVA yn rhybuddio bod cynnydd mewn llwyth gwaith a gwaith papur - yn rhannol o achos Brexit - yn rhoi llai o amser i lawfeddygon milfeddygol drin anifeiliaid.

Er bod ffigyrau'n dangos bod cynnydd yn niferoedd y milfeddygon yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwetha', mae llawer mwy o bobl yn berchen ar anifeiliaid erbyn hyn, meddai'r BVA.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "ymwybodol o'r heriau", tra bod Llywodraeth y DU yn dweud eu bod nhw'n ceisio sicrhau cytundeb milfeddygaeth newydd gydag Ewrop.

Disgrifiad o’r llun,

Gwartheg fferm Blaenffynnon wrth dderbyn archwiliad gan y milfeddyg

Ar fferm Blaenffynon yn Horeb ger Llandysul yng Ngheredigion, mae'r milfeddyg Elizabeth Harries yn galw i archwilio'r gwartheg.

Mae'n rhan ganolog o'i gwaith - ac mae'r berthynas rhyngddi hi a'r fferm yn hollbwysig ar gyfer cynnal iechyd a lles yr anifeiliaid.

Heb ymweliadau fel hyn fe allai'r anifeiliaid ddioddef, yn ôl Ffion Rees sy'n ffermio ym Mlaenffynnon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Rees yn credu taw'r anifeiliaid fyddai'n dioddef fwyaf oherwydd prinder milfeddygon

"Yr anifeiliaid fyddai'n gweld eu heisiau nhw," meddai Ffion.

"Mae angen y vet pob dydd a phob nos, felly mae e'n eitha pwysig.

"Yr anifail sydd mewn poen hebddyn nhw."

Mae'r BVA yn rhybuddio bod 'na brinder milfeddygon i ofalu a rhoi triniaeth i anifeiliaid.

Disgrifiad o’r llun,

Rhan ganolog o waith Elizabeth Harries yw cadw llygad ar iechyd anifeiliaid fferm

Fe allai hynny gael effaith enfawr, yn ôl y milfeddyg, Elizabeth Harries.

"Ni'n mynd i gael sefyllfa, lle os nad y'n ni'n gallu darparu'r gwasanaeth 24/7, mae e'n mynd i gael effaith wir negyddol ar iechyd a lles anifeiliaid," meddai.

"Mae ffermwyr yn gallu gwneud cymaint a maen nhw'n gallu gwneud eu hunain, ond ar ddiwedd y dydd maen nhw'n ffonio ni er mwyn gwella'r anifail a'r fuches."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ddyddiol mae Elizabeth Harries yn ymweld â ffermydd yn Nyffryn Teifi

"Dwi wedi graddio ers 10 mlynedd nawr," ychwanegodd, "a dwi wedi gweld cynnydd mawr yn y gwaith papur a'r oriau o waith papur ry'n ni'n gorfod gwneud.

"Ni'n gorfod recordio popeth ni'n 'neud. Ni'n gorfod sgwennu nodiadau ar bob galwad. Ni'n gorfod paratoi cynlluniau iechyd ffermydd.

"Bydden i'n dweud os bydden i'n cael amser bob diwrnod, bydden i'n treulio rhyw ddwy awr yn gwneud gwaith papur, ac yn anffodus ni'n gorfod jugglo hwnna gyda'r gwaith clinigol."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Elizabeth Harries mae 'na gynnydd yn y gwaith papur dros y 10 mlynedd ddiwethaf

Mae nifer o filfeddygon yn gweld cynnydd yn eu llwyth gwaith, ac yn ôl y BVA mae'n sefyllfa debyg ar draws Cymru, ond yn bennaf mewn ardaloedd gwledig.

Mae ffigyrau Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) yn dangos cynnydd yn niferoedd y milfeddygon yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwetha' - o ychydig dros 1,000 yn 2014, i 1,488 yn 2024.

Ond yn ôl y BVA, dyw'r ffigyrau yma ddim yn dangos y cynnydd sylweddol yn nifer yr anifeiliaid yng Nghymru - yn enwedig ers y pandemig.

Yn ogystal â hynny, mae'r cynnydd mewn gwaith papur ac archwiliadau sydd yn rhaid i filfeddygon eu cyflawni yn sgil Brexit yn golygu bod 'na lai o amser i drin anifeiliaid sy'n sâl.

'Parhau i dyfu'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "sector milfeddygol sy'n ffynnu yn hanfodol i gyrraedd targedau i sicrhau safon bywyd da i anifeiliaid yng Nghymru".

"Mae'n glir bod angen cadw'r niferoedd a gallu milfeddygon o dan adolygiad ac ry'n ni'n ymwybodol o'r heriau ry'n ni'n wynebu.

"Mae'r ysgol filfeddygol yn Aberystwyth yn parhau i dyfu, ac yn chwarae rhan bwysig wrth annog milfeddygon y dyfodol i astudio a gweithio yng Nghymru."

Ar faterion polisïau mewnforio ac allforio, a fisas i filfeddygon, fe ddywedodd Llywodraeth y DU eu bod nhw'n ceisio ail-sefydlu'r berthynas gydag Ewrop a sicrhau cytundeb milfeddygaeth newydd.