Teyrnged Gethin Jones i'w dad, cyn-bennaeth yng Nghaerdydd

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd teledu Gethin Jones wedi rhoi teyrnged i'w dad, cyn-bennaeth ysgol yng Nghaerdydd, a fu farw'r wythnos ddiwethaf.
Roedd Goronwy Jones yn bennaeth yn Ysgol Gynradd Baden Powell yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd.
Dywedodd Gethin Jones bod ei dad wedi bod yn wael ers tro ond ei fod "mor neis i weld ei hiwmor sych, pwysigrwydd ffydd a'i gariad at gerddoriaeth glasurol yn amlwg hyd y diwedd".
Fe ddisgrifiodd diwedd bywyd ei dad fel "mor berffaith, mor heddychlon. Emynau Cymraeg yn chwarae a'i wyrion yn ffarwelio ag ef ar y ffôn."
'Effaith fawr ar addysg'
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Gethin Jones bod ei dad wedi creu argraff drwy ei waith fel athro, ac yn ystod ei gyfnod diweddar yn yr ysbyty y byddai pobl yn aml yn ei stopio ac yn holi amdano.
"Fe wnaeth e gael effaith fawr ar addysg yn ystod y rhannau yma dros gyfnod hir iawn. Roedd yn llym ac yn glir, a wastad yn rhesymol.
"Roedd yn athro am 40 blynedd, ac yn bennaeth am 28!"
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "ddiolchgar" i holl staff y GIG am eu "gofal a'u dealltwriaeth".
Fe wnaeth ganmol ei chwaer am ei gallu i ofalu am ei thad nid yn unig fel gweithiwr y GIG ond fel ei ferch hefyd.
"Mae wedi bod yn anhygoel," meddai.
Fe ddisgrifiodd yr wythnos hon fel un "anodd. Ond lwcus mewn cymaint o ffyrdd".