Dyn a fagwyd yng Nghasnewydd wedi marw yng ngwrthdrawiad Air India

Akeel Nanabawa, Hannaa Vorajee a SaraFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y teulu ifanc eu disgrifio fel un "agos iawn" oedd yn aelodau gweithgar o'r gymuned

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn a gafodd ei fagu yn ne Cymru, ei wraig a'i ferch, a fu farw yn y gwrthdrawiad awyren yn India ddydd Iau.

Roedd Akeel Nanabawa - dyn busnes 35 oed oedd yn arfer byw yng Nghasnewydd ond sydd bellach yn byw Sir Gaerloyw - ei wraig, Hannaa Vorajee a'u merch bedair oed, Sara, ymhlith y 53 o bobl o'r DU fu farw yn y digwyddiad.

Cafodd y teulu ifanc eu disgrifio fel un "agos iawn" oedd yn aelodau gweithgar o'r gymuned, mewn datganiad ar ran eu teuluoedd ehangach fore Gwener.

"Roedden nhw'n cael eu caru a'u parchu. Fe wnaeth ei haelioni tawel ef, ei chynhesrwydd a'i charedigrwydd hi, ac ysbryd disglair, llawen eu merch argraff ar bawb oedd yn eu hadnabod."

Ychwanegodd y datganiad bod y digwyddiad wedi "ysgwyd ein cymuned gyfan", gan ofyn am breifatrwydd "wrth i ni ddygymod â'r cyfnod poenus dros ben yma".

Roedd 242 o bobl ar yr awyren pan ddaeth i lawr funudau ar ôl gadael maes awyr Ahmedabad am faes awyr Gatwick yn Llundain.

Roedd Akeel Nanabawa yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Caerllion, a ddywedodd eu bod yn "wedi tristau" o glywed am ei farwolaeth.

"Mae Akeel yn cael ei gofio fel disgybl arbennig a rhywun oedd yn boblogaidd gyda staff a chyd-ddisgyblion."

Dywedodd llefarydd ar ran y Gloucestershire Muslim Bereavement Council fod eu "calonnau wedi torri".

"Yn ystod y cyfnod yma o dristwch llethol, mae'n meddyliau gyda phawb sydd wedi eu gadael ar ôl," meddai'r llefarydd.

"Ni all unrhyw eiriau leddfu'r boen wedi cymaint o golled, ond rydyn ni'n gweddïo y gall y teulu dderbyn rhywfaint o gysur o weld y tosturi a'r gefnogaeth gan gymunedau o ar draws y byd."

Pynciau cysylltiedig