Buddugoliaeth i'r Seintiau yng Nghynghrair y Pencampwyr
- Cyhoeddwyd
Cafodd y Seintiau Newydd y dechrau perffaith i'w hymgyrch yng Nghyngrair y Pencampwyr gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić.
Llwyddodd pencampwyr Cymru i ennill cymal cyntaf y rownd ragbrofol gyntaf o 3-0 yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth.
Aeth y Seintiau ar y blaen o fewn pum munud trwy beniad gan Brad Young, cyn iddo ddyblu'r fantais wedi hanner awr.
Roedd hi'n 3-0 cyn hanner amser wedi i Danny Davies rwydo yn dilyn cic gornel.
Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym Montenegro nos Fawrth nesaf.
Bydd Y Bala, Caernarfon a Chei Connah yn dechrau eu hymgyrchoedd nhw yng Nghyngres Europa nos Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2024