'Archarwr' ifanc â chanser yn hel arian a chodi ysbryd
- Cyhoeddwyd
Mae "archarwr" ifanc wedi cael ei chanmol am hel miloedd o bunnoedd a chadw'r ysbryd yn uchel ar ward canser plant - er iddi dderbyn triniaeth ei hun.
Cafodd Mia Harris Jones, 15, o Gaerdydd wybod y llynedd fod ganddi lewcemia, ac mae bellach yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Plant Arch Noa.
Dywedodd ei fam, Jade, fod y diagnosis yn "jôc greulon" gan ystyried bod Mia wedi dioddef o bryder meddygol ers ei phlentyndod.
Ond er gwaethaf anawsterau ei thriniaeth ei hun, mae staff ar Ward yr Enfys wedi canmol ei heffaith ar gleifion iau, ac mae hi bellach wedi cael ei chydnabod fel Llysgennad Ieuenctid.
Ar ôl mynd yn sâl haf diwethaf, aeth Mia i'r ysbyty lle cafodd ddiagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Acíwt Cell-T.
Canfodd y meddygon fod celloedd canser eisoes wedi lledaenu i'w nodau lymff, a bod màs wedi'i ganfod o amgylch ei hasgwrn cefn a oedd yn golygu bod angen cemotherapi ar unwaith.
Gyda Mia'n dal i wynebu dwy flynedd arall o driniaeth, mae wedi bod yn fisoedd andros o anodd i’w theulu.
“Pan gawson ni ei diagnosis fe drodd ein bywydau wyneb i waered,” meddai Jade.
“Mae’r 10 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn. Mae gwylio hi’n mynd trwy'r driniaeth wedi bod yn arbennig o galed, yn enwedig ar blant ifanc.
“Ond tra rydyn ni yma rydan ni wedi gwylio hi’n cael cymaint o gyfleoedd newydd, ac mae prosiectau Arch Noa wedi ei chynnwys mewn llawer o weithgareddau sydd wedi cadw ei meddwl yn brysur.
“Felly mae wedi bod yn braf iawn gwylio ei hyder yn tyfu er gwaethaf popeth mae hi'n mynd drwyddo.”
Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys dogfennu ei thaith ganser ar Tiktok i dros 35,000 o ddilynwyr, yn ogystal â helpu i godi arian ar gyfer cangen elusennol yr ysbyty.
Mae ei hyder newydd hefyd wedi ei harwain i gymryd rôl “chwaer fawr” i lawer o gleifion iau ar y ward, y mae’n eu disgrifio fel “un teulu mawr”.
"Blwyddyn yn ôl os oedd rhaid i mi ddod i'r ysbyty fyswn i wedi fy syfrdanu, ond nawr mae’r ward a’r ysbyty cyfan yn teimlo fel cartref,” meddai.
“Mae'r holl blant bach ar y ward yn mynd trwy'r un peth, felly dwi'n ceisio dangos y gweithdrefnau iddyn nhw.
“Maen nhw’n gweld rhywun fel fi sy’n mynd trwy’r un peth [ac mae hynny] yn eu helpu i deimlo'n llai ofnus.”
Yn dilyn enwogrwydd annisgwyl ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd Mia'n benderfynol o ddefnyddio'i llwyfan er daioni.
"Wnaeth o chwythu i fyny felly meddyliais am godi ymwybyddiaeth ac arian i’r elusennau, yn enwedig Arch Noa sydd wedi bod o gymorth i mi ers fy niagnosis,” meddai'r claf ifanc sydd eisoes wedi codi dros £2,000.
“Mae wedi bod yn anhygoel. Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch iawn ohonof fy hun ac yn hapus fy mod yn gallu helpu plant eraill.”
Un o'i ffrindiau agosaf oedd Vinnie, pedair oed, a gafodd ddiagnosis o lewcemia hefyd.
Fe glosiodd y ddau yn sgil eu hoffter â thegan meddal Mia, Sully, o’r ffilm Monsters Inc., ac yn ddiweddarach fe brynodd Mia degan i Vinnie o un o gymeriadau eraill y ffilm, Mike.
Un arall o’i ffrindiau ar y ward yw Catherine, naw, o Lanfair-ym-Muallt, sy’n canmol egni cadarnhaol Mia ar y ward.
"Mae'n dda iawn fod pawb yn gallu gwneud ffrindiau yma, ac mae Mia wedi bod yn dda iawn ac yn gefnogol i bawb," meddai.
"Mae'r nyrsys yn garedig iawn, a'r meddygon hefyd. Maen nhw wedi helpu fi ddeall pethau, ac mae pawb yma'n fy helpu'n fawr i ddod trwy bopeth."
Mae Mia bellach wedi derbyn statws Llysgennad Ieuenctid gan Elusen Ysbyty Plant Arch Noa, i gydnabod “ei buddugoliaeth dros adfyd a charedigrwydd i eraill”.
Er bod ei thaith i wellhad yn un hir, mae hi'n benderfynol o aros yn bositif a helpu gydag ymdrechion codi arian.
O ran y dyfodol, mae ganddi ei harwyr ei hun mewn golwg.
“Rydw i wir eisiau bod yn nyrs oncoleg bediatrig pan fyddaf yn hŷn,” meddai Mia.
“Rydw i wir yn gobeithio gwneud hynny a helpu plant eraill fel fi yn y dyfodol.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd17 Ebrill