'O'n i methu canolbwyntio mewn arholiadau oherwydd poen mislif'
![Emily Handstock](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1152/cpsprodpb/44e2/live/e980be90-19d2-11ef-a732-137bfad2dbd1.jpg)
Cafodd Emily Handstock wybod yn 22 oed bod endometriosis ganddi
- Cyhoeddwyd
Wrth i Emily Handstock gerdded mewn i’w harholiad roedd hi’n cael trafferth sefyll ac yn cuddio potel dŵr poeth yn ei dillad er mwyn ymdopi â phoen ei mislif.
Mae'r fenyw 25 oed, sydd ag endometriosis, yn rhoi fideos ar-lein yn dogfennu'r cyflwr a’r effaith mae'n cael ar ei bywyd.
Er mwyn rhoi cyngor ymarferol i ddisgyblion sy’n wynebu problemau, mae grŵp ymgyrchu Love Your Period wedi cyhoeddi canllawiau.
Yn ôl Cymwysterau Cymru, sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau, mae lles dysgwyr yn rhan holl bwysig o’u gwaith.
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022
Mae Emily yn gyfarwydd â cheisio rheoli poen difrifol tra ar ei mislif.
Wrth sefyll ei harholiadau Safon Uwch roedd yn cael profion ar gyfer endometriosis ac mae’n cofio ceisio lleddfu’r boen gyda thabledi a photel dŵr poeth.
“Roedd gen i siwmper enfawr ymlaen a photel dŵr poeth i fyny yna a daeth y goruchwyliwr - dyn - draw gan ei fod yn meddwl fy mod yn cuddio rhywbeth,” meddai.
“Doeddwn i ddim ar fy ngorau, dywedais bod mislif gen i, bod potel yn fy siwmper a’i bod yn aros yna."
'Gollwng gwaed'
Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe tebyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill fel yr ofarïau a thiwbiau ffalopaidd.
Mae’n gyflwr hirdymor sy’n gallu achosi poen cronig difrifol, blinder ac mae’n gallu ei gwneud hi’n anodd beichiogi.
Wedi cael diagnosis yn 22 oed, dywedodd Emily nad oedd ganddi unrhyw amheuaeth ei bod o dan anfantais yn ei harholiadau o ganlyniad.
“Doeddwn ni ddim yn gallu meddwl yn glir na chwaith canolbwyntio gan fy mod mewn cymaint o boen,” ychwanegodd.
![Molly Fenton](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/930/cpsprodpb/cb11/live/c5acba40-19d3-11ef-a732-137bfad2dbd1.jpg)
Sefydlodd Molly Fenton grŵp ymgyrchu Love Your Period yn ei harddegau
Mae’r ymgyrchydd Molly Fenton yn disgrifio cyfnod ei harholiadau fel “hunllef”.
“Roeddwn i’n gollwng gwaed... ond y peth mawr i fi oedd y ffaith bod angen i fi fynd i'r tŷ bach drwy'r amser," meddai.
“Dy'n ni ddim yn cael y sgyrsiau hyn ac efallai bod hynny oherwydd nad oedden nhw’n symptomau nodweddiadol.
“Ro'n i hefyd yn arfer cael cur pen gwael felly byddai hynny'n effeithio ar fy ngwaith."
Sefydlodd Molly Love Your Period yn ei harddegau tra’n yr ysgol yng Nghaerdydd er mwyn ceisio dod â thlodi mislif i ben a chael gwared ar y stigma i ddisgyblion ledled Cymru.
“Nid yw mislif poenus yn anghyffredin - mae’n peri problemau. Nid pawb sy’n cael cymorth, ac mae’n effeithio ar ansawdd bywyd," meddai.
“Mae cyfran fawr o bobl yn byw gyda mislif gwael."
Galw am fwy o weithredu
Bellach yn 22 oed, dywedodd Molly bod sgyrsiau am y pwnc yn digwydd ond nad oes digon o weithredu.
“Mae angen mynediad digonol at gynhyrchion mislif, codi ymwybyddiaeth am waedu trwm," meddai.
"Does dim modd newid hyn dros nos... mae angen i ni sicrhau bod pob oedolyn yn ymwybodol o sut mae mislif yn effeithio ar bobl."
Mae’r grŵp wedi cyhoeddi canllawiau yn cynnig cyngor gan bobl sydd wedi sefyll arholiadau yn ddiweddar.
“Mae'n dweud beth i'w wneud am ollwng gwaed, poen mislif, anesmwythder, symudiad y coluddyn a hunanofal,” meddai Molly.
“Does dim sgwrs amdano, ry'n ni'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd pobl... allwn ni ddim newid arholiadau ond ry'n ni eisiau i bobl deimlo'n gyfforddus."
![Natalie Brown](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/89c9/live/e8ec7860-19d3-11ef-a732-137bfad2dbd1.jpg)
Mae Natalie Brown wedi cynnal arolwg ymhlith athrawon a disgyblion am addysg mislif mewn ysgolion
Mae Natalie Brown, sy'n gweithio gyda Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru, wedi cynnal arolwg ymhlith athrawon a disgyblion am addysg mislif mewn ysgolion.
“Dywedodd 64% o athrawon bod mislif yn effeithio ar ddysgu cyffredinol a 45% yn credu ei fod yn effeithio’n benodol ar ganlyniadau arholiadau a pherfformiad arholiadau mewn ysgolion,” meddai.
Yn ôl yr academydd o Brifysgol Abertawe, y boen oedd yn peri’r pryder mwyaf i lawer.
“Mae gorfod eistedd yn llonydd am gyfnod hir mewn arholiad yn anodd… mae’n anoddach fyth pan da chi’n ceisio bod ar eich gorau,” meddai.
Ystyriaeth arbennig
Dywedodd Cymwysterau Cymru bod dysgwyr yn gallu gwneud cais am ystyriaeth arbennig, pan yn briodol.
“Mae unrhyw ddysgwr sy’n sâl dros dro neu sy’n cael profiad y tu hwnt i’w rheolaeth sy’n debygol o effeithio’n andwyol ar eu gallu i sefyll arholiad neu i sicrhau eu cyrhaeddiad arferol, yn gallu gofyn am broses dyfarnu Ystyriaeth Arbennig,” meddai llefarydd.
Byddai’r broses yma o bosibl yn gallu arwain at fân addasiadau i farciau wedi’r arholiad, yn ddibynol ar natur a difrifoldeb unrhyw salwch neu ddigwyddiad.