'Neb ar gael yn yr ysbyty i gyfathrebu â fy merch fyddar'

Mae Kristy Hopkins yn dweud fod ei merch Ffion Haf yn gorfod dibynnu arni hi i gyfathrebu gyda'r meddygon a'r nyrsys yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaerdydd yn dweud bod neb ar gael i gyfathrebu â'i merch fyddar pan maen nhw'n mynd i'r ysbyty.
Dywedodd Kristy Hopkins, 45, bod mynd â'i merch 15 oed, Ffion Haf, i'r ysbyty yn brofiad "anodd" a "negyddol" oherwydd y rhwystrau cyfathrebu.
Mae'n dilyn adroddiad gan elusen RNID sy'n dweud bod methiannau difrifol yng ngofal pobl sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda sefydliadau fel RNID a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain i "adnewyddu" mynediad at ofal iechyd i bobl â nam ar y synhwyrau.
'Poeni am y dyfodol'
Mae Ffion Haf yn ddibynnol ar fewnblaniadau i allu clywed, ac mae ei chyflwr yn golygu ei bod hi wedi treulio llawer o amser mewn ysbytai.
"Ma' fe wedi bod yn eitha' negyddol," meddai ei mam, Kristy, yn trafod ei phrofiad ar raglen Dros Frecwast.
"Ni wedi treulio dipyn o amser yn yr ysbyty, wythnosau ar y tro, a bob tro ni mewn does neb yn gallu cyfathrebu â hi - does dim cyfieithydd ar gael yna."

"Mae'n hollbwysig bod mynediad hafal i bawb ar gael yn y gwasanaeth iechyd," meddai Kristy Hopkins
Dywedodd Ms Hopkins bod diffyg cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) mewn ysbytai yn golygu fod y cyfrifoldeb yn disgyn arni hi i gyfieithu - rhywbeth sy'n peri pryder iddi pan fydd Ffion Haf yn hŷn.
"Heb y cochlear implant mae hi'n hollol fyddar, so ma' hi'n dibynnu ar fi i gyfathrebu gyda y doctoriaid a'r nyrsys yn yr ysbyty - mae wedi bod yn anodd bob tro ni'n mynd i fewn. Mae e'n cwympo arna i fel mam i gyfathrebu gyda hi wedyn," meddai.
"Mae'n hollbwysig bod mynediad hafal i bawb ar gael yn y gwasanaeth iechyd.
"Mewn cwpl o flynydde ni fydda i'n gallu bod gyda Ffion Haf yn aros dros nos gyda hi yn yr ysbyty, felly pan ma' hi'n gorfod mynd i mewn ar ben ei hunan pwy sy'n mynd i gyfathrebu gyda hi?
"Ma'n rhywbeth ni'n rili poeni am y dyfodol."
Ychwanegodd bod ap ar gael sy'n rhoi linc byw i siaradwr BSL, ond bod problem gyda'r Wi-Fi yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi'i rhwystro rhag ei ddefnyddio.
'Sgandal cenedlaethol'
Mae elusen RNID yn dweud bod y driniaeth o bobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw yng Nghymru yn "sgandal cenedlaethol".
Yn eu hadroddiad mae RNID yn honni bod GIG Cymru yn mynd yn groes i hawliau cyfreithiol cleifion o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Yn ôl yr elusen, tydi 73% o bobl fyddar a phobl â cholled clyw yng Nghymru erioed wedi cael eu holi am eu hanghenion cyfathrebu o fewn lleoliad gofal iechyd.
Dywedodd Polly Winn, Rheolwr Materion Allanol (Cymru) RNID: "Y realiti ofnadwy yw bod llawer gormod o bobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw yn cael eu methu gan GIG Cymru.
"Mae GIG Cymru yn gwahaniaethu'n systematig yn erbyn pobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw: mae'n sgandal cenedlaethol.
"Mae bywydau'n cael eu rhoi mewn perygl oherwydd rhwystrau cyfathrebu, oedi a systemau hen ffasiwn sydd angen eu hailwampio."
Ychwanegodd ei bod hi'n "hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hyn ar frys".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn adnewyddu'r safonau y dylai pobl â nam ar y synhwyrau eu disgwyl wrth gael mynediad at ofal iechyd yng Nghymru, gan weithio gyda sefydliadau fel RNID a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain.
"Bydd hyn yn sicrhau bod pobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw a'u gofalwyr yn gwybod ble y gallant gael mynediad at wasanaethau, gofal a chymorth yn eu cymuned leol."