Amheuon am ychwanegiadau ym maes iechyd merched
- Cyhoeddwyd
Mae merched mor ifanc ag wyth oed yn cael eu cynghori ar-lein i gymryd ychwanegiadau neu fitaminau i'w helpu gyda'u hormonau, yn ôl ymgyrchydd iechyd menywod.
Mae'r cynnydd mewn triniaethau amgen, heb dystiolaeth o'u llwyddiant, hefyd yn poeni meddygon.
Mae 'na bryder bod cwmnïau sy'n marchnata'r cynnyrch yma'n targedu a chymryd mantais o fenywod.
Tra bod peth o'r cynnyrch yn gallu bod yn wastraff arian, gall eraill achosi problemau gyda chyffuriau presgripsiwn, neu hyd yn oed guddio symptomau mwy difrifol.
'Diffyg addysg a gwybodaeth'
Fe sefydlodd Molly Fenton ymgyrch Love Your Period pan oedd hi'n 16 oed, ar ôl sylweddoli bod angen rhywle diogel i ofyn cwestiynau am gyrff yn newid.
Bellach, a hithau'n 21 oed, mae hi'n gweld merched mor ifanc ag wyth oed ar gyfryngau cymdeithasol yn cael cyngor i gymryd fitaminau ac ychwanegiadau er mwyn "cydbwyso eu hormonau".
"Mae 'na lawer o bethau ar-lein am y term 'balans hormonol', ac mae llawer o gynnyrch yn dod lan," meddai.
"Dwi'n cyfadde 'mod i'n un am chwilio ar TikTok am unrhywbeth, cyn i fi chwilio ar Google, ond mae'n anodd gwirio beth mae rhywun yn ei roi mewn fideo."
Mae iechyd merched yn bryder i Molly, gan ddweud bod "bwlch yn y farchnad oherwydd diffyg addysg a diffyg gwybodaeth".
Mae hi'n un o nifer sy'n poeni bod pobl sydd wedi cael eu symptomau wedi eu diystyru, neu sydd ar restr aros hir, yn troi at wasanaethau neu gynnyrch lle nad oes prawf o ba mor effeithiol fyddan nhw.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r llawfeddyg coluddyn a'r rhefr (rectal), Julie Cornish, wedi gweld nifer fechan o gleifion gyda chanser y gallen nhw fod wedi ei drin yn llwyddiannus, pe baen nhw wedi dod am gymorth ynghynt.
Ond yn hytrach na gwneud hynny, fe dalon nhw am driniaeth amgen gyda phobl heb gymwysterau ffurfiol, oedd yn golygu bod symptomau difrifol wedi eu hesgeuluso am fisoedd.
Pan yn ystyried syndrom coluddyn llidus (irritable bowel syndrome) neu IBS, yn ôl Julie Cornish, "y pryder sydd gen i, yw bod cleifion yn rhoi meddyginiaeth i'w hunain".
"Ond mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod wedi diystyru canser neu gyflwr arall yn gyntaf."
Pryder am ddiffyg tystiolaeth
Er yn cydnabod bod rhai therapïau amgen yn gallu bod o ddefnydd unwaith mae diagnosis IBS wedi'i gadarnhau, mae Julie Cornish yn dweud bod "rhai yn hysbysebu cynlluniau 'llwyddiannus' sy'n ddrud, sydd heb dystiolaeth i brofi hynny o reidrwydd".
Dyma un o'r prif resymau iddi sefydlu gŵyl Everywoman yng Nghaerdydd, sy'n dod â menywod ynghyd i drafod a chymryd rhan mewn gweithdai ar sawl pwnc iechyd.
Nod yr ŵyl, sy'n cael ei chynnal am yr ail flwyddyn eleni, yw addysgu menywod am beth sy'n arferol a lleihau stigma.
Ymysg rhai fydd yn siarad yn y digwyddiad fis Mehefin fydd Liz O'Riordan, llawfeddyg y fron sydd wedi cael canser y fron dair gwaith.
Bu'n rhaid iddi ymddeol o'i swydd gyda'r gwasanaeth iechyd yn 43 oed, ond mae wedi defnyddio'i gallu a'i sgiliau i helpu eraill a thaclo gwybodaeth anghywir.
"Fel llawfeddyg canser, doedd dim syniad gen i beth oedd fy nghleifion yn chwilio amdano ar-lein - es i byth at fforymau," meddai.
"Ond yr eiliad y ces i ddiagnosis canser, roedd 'na bobl ar-lein yn dweud wrtha i am ddefnyddio ïodin, i fynd ar detox a thorri siwgr [o'r diet] neu wneud diet keto - 'o'n i wedi trio'r cyffur yma, neu'r cyffur yma?'
"Doedd dim syniad gen i faint o wybodaeth anghywir sydd i gael. Mi all fod yn debyg i gwlt - ac mae canser yn arswydus."
'Tynnu sylw at gamwybodaeth'
Dywedodd ei bod hi'n deall apêl gweld pobl yn canmol cynnyrch i'r cymylau ar-lein, gydag addewid o wella cyflyrau, a chostau drud.
Mae hi bellach yn defnyddio'i phrofiad i geisio pontio rhwng y ddau fyd.
"Mae fel cenhadaeth i fi, i geisio tynnu sylw at yr holl gamwybodaeth, a helpu pobl i wneud dewisiadau call."
Fe esboniodd bod rhai o'r perlysiau ac ychwanegiadau sydd ar gael yn gallu effeithio ar driniaethau canser, fel tamoxifen.
"Roedd gen i tua 10 munud o'r blaen i ddweud wrth rhywun bod ganddyn nhw ganser, a pha driniaeth roedden nhw am ei gael," meddai.
"Dyw e ddim yn ddigon - does dim digon o amser i fynd drwy'r triniaethau meddygol, heb sôn am faterion eraill.
"Mae'r we wedi ffrwydro - mae 'na hysbysebion ar Facebook sy'n targedu pobl, gyda thystebau allai fod wedi cael eu hysgrifennu gan dechnoleg AI."
Diane Danzebrink yw sylfaenydd grŵp Menopause Support, ac fe fydd hi'n siarad yng ngŵyl Everywoman am anghyfiawnderau ynghlwm â'r menopos.
"Mae'r menopos wedi newid yn sylweddol, mae 'na lawer mwy o drafod bellach," meddai.
"Ond mae hynny hefyd yn agor cyfle - yn ei hanfod, mae wedi troi'n faes cystadleuol a masnachol.
"Mae cyfryngau cymdeithasol wedi ehangu'n sylweddol am y menopos, ac mi all fod yn bositif iawn, a gwneud i bobl adnabod yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw.
"Ond mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod bod 'na lawer o wybodaeth anghywir i gael hefyd.
"Fy mhryder i yw os na all pobl gael y gofal a'r gefnogaeth gywir, mi allen nhw gael eu targedu gan rai o'r cynnyrch yma.
Dy'n ni ddim yn gwybod am ansawdd llawer o'r pethau yma - does gan sawl un ddim ymchwil o gwbl ynghlwm â nhw."
'Ofn peidio'u cymryd'
Yn ôl Diane, mae'r risg i iechyd o gymryd y cynnyrch yma'n isel - er bod effaith posibl ar feddyginiaeth bresgripsiwn - ond mae 'na broblemau eraill.
"Rwy'n cofio un person yn dod i siarad gyda mi am eu profiad o'r menopos, ac fe ddaeth hi a 12 ychwanegiad gwahanol roedd hi'n eu cymryd, ar gost sylweddol bob mis.
"Fe ofynnais iddi pa rai sy'n gweithio, a'i hateb oedd 'Dwi ddim yn gwybod, ond mae gormod o ofn gen i beidio'u cymryd'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Ebrill