Gwerthu trwy TikTok yn dyblu incwm busnes lliw haul ffug

Shoned Owen, gyda gwallt melyn, yn eistedd o flaen poteli o lliw haul ffug yn ei siop.
Disgrifiad o’r llun,

Ers dechrau gwerthu lliw haul ffug trwy TikTok mae Shoned Owen yn dweud i'w busnes ffynnu unwaith eto

  • Cyhoeddwyd

Mae gwerthu trwy siop TikTok wedi "dyblu" incwm busnes Shoned Owen.

Roedd ei chynnyrch lliw haul ffug, Tanya Whitebits, yn gwerthu trwy siopau arferol ac ar-lein yn barod.

Ond wrth i dwf y busnes ddechrau arafu aeth Shoned ati i werthu trwy TikTok.

O'i garej ym Mhwllheli, mae hi'n darlledu'n fyw ar yr ap, a rhwng Ionawr 2024 a 2025 fe ddyblodd trosiant (turnover) y cwmni.

Trwy werthu yn uniongyrchol gyda'r siop sydd o fewn ap TikTok mae busnesau bach yn darlledu'n fyw ar y platfform, gan ddenu gwylwyr a chwsmeriaid newydd.

"Dwi'n sbio ar fusnesau eraill ac maen nhw ar TikTok am 12 awr y diwrnod, jyst yn gweithio, pacio parseli, pethau syml, ond mae pobl yn tiwnio fewn i hynna."

Dau ffon symudol yn dangos Shoned Owen yn siarad mewn i'r camera, gyda rhai sylwadau aneglur ar waelod un ffon sy'n darlledu yn fyw ar TikTok.
Disgrifiad o’r llun,

Trwy ap TikTok mae Shoned yn siarad â'i chwsmeriaid ac yn gwerthu yn uniongyrchol

Dywedodd bod "TikTok Shop yn one-stop shop, 'da chi'n aros ar y platfform, 'da chi'n cyfeirio eich cynulleidfa i'r siop ar TikTok, 'da chi ddim i fod i gyfeirio nhw i'ch gwefan."

Mae'n rhaid cydymffurfio â rheolau eraill i werthu trwy'r siop hefyd.

Cafodd Shoned rybudd am esgus ysmygu wrth geisio dangos sut mae ewinedd yn gallu newid lliw gyda rhai cynnyrch lliw haul ffug.

"Fedrwch chi gael ban am 90 diwrnod, fedran nhw gau eich cyfrif chi i lawr," meddai.

"Mae 'na rai geiriau chewch chi ddim eu defnyddio - mae eisiau bod reit ofalus."

Yn ôl TikTok Shop mae dros 6,000 o sesiynau siopa byw yn digwydd bob dydd.

Roedd yr ap wedi profi twf mewn incwm o 131% flwyddyn ar flwyddyn erbyn Tachwedd 2024.

Ond er bod cymaint o bobl wedi troi at y ffordd newydd o brynu, dangosodd strydoedd mawr y DU gynnydd sylweddol mewn siopwyr fis diwethaf.

Cynyddodd nifer yr ymwelwyr â'r stryd fawr 6.6% ym mis Ionawr o'i gymharu â'r un mis yn 2024, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain.

Mae'r consortiwn yn dweud bod cwsmeriaid bellach yn hoffi "siopa clyfar" ac yn mwynhau gweld cynnyrch sy'n trendio ar TikTok yn cyrraedd silffoedd siopau.

'Mwy mewn awr ar TikTok na diwrnod mewn siop'

A gorau oll i bobl busnes fel Laura Mallows.

Mae hi'n dathlu cyrraedd silffoedd Superdrug a Boots gyda'i chynnyrch harddwch, ac yn ysu agor siop newydd yng Nghaerdydd.

Rhai blynyddoedd yn ôl roedd ganddi siop fach yn y brifddinas, ond aeth ati i werthu yn bennaf drwy TikTok gan sylwi yn syth ar y gwahaniaeth.

"Rwy'n gwneud mwy [o incwm] mewn awr trwy fynd yn fyw, na diwrnod yn ceisio gwerthu yn y siop," meddai.

Laura Mallows, menyw 33 oed gyda gwallt melyn, yn eistedd yn ei swyddfa. Mae'r cefndir yn binc iawn.
Disgrifiad o’r llun,

Trwy siop TikTok mae Laura Mallows o Lantrisant wedi tyfu ei busnes cynnyrch harddwch

Nawr mae ystafell fechan, wedi'i haddurno ar gyfer cynulleidfa TikTok, yn galluogi'r tîm y tu ôl i Mallows Beauty i werthu cynnyrch yn syth o'u swyddfa yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.

"Mae'r cynnydd wedi bod yn wyllt," meddai Ms Mallows.

Mae'n broses sydd hefyd yn denu adborth yn syth gan y gynulleidfa.

"Bydd pobl yn bendant yn dweud wrtha i os ydyn nhw'n meddwl ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn, neu'n gwneud rhywbeth o'i le.

"A dwi'n meddwl mai'r peth mawr i mi yw ein bod ni jyst yn y swyddfa fach yma yng Nghymru, a dydych chi ddim yn sylweddoli'r effaith ry'n ni'n cael.

"Byddaf yn llwytho fideos gan feddwl fy mod i'n dangos fideos i fy ffrindiau yn unig, a dydw i ddim yn meddwl amdano mewn gwirionedd - nid nes i fi gael fy adnabod yn Efrog Newydd, a bod pobl yn dod ataf i ofyn am selfies."

Huw Thomas ar y chwith a Laura Mallows ar y dde, yn sefyll tu ol i ddesg a'r camerau sy'n cael eu defnyddio i ddarlledu yn fyw ar TikTok
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan cwmni Mallows Beauty ardal arbennig er mwyn darlledu'n fyw ar TikTok

Mae TikTok yn cyflawni archebion ar ran rhai gwerthwyr, a gall unrhyw un sy'n defnyddio'r platfform gael hyfforddiant i'w helpu i ymuno â rhai o'r 200,000 o fusnesau bach a chanolig sydd yno yn barod.

Dywedodd pennaeth TikTok Shop, Jan Wilk, eu bod yn cael "effaith gadarnhaol ar y stryd fawr yn gyffredinol".

Dywedodd y cwmni fod "halo effect" yn aml yn cyffwrdd â busnesau sy'n darganfod fod cynhyrchion sy'n boblogaidd ar TikTok wedyn yn dod yn boblogaidd mewn siopau'r stryd fawr.

Ond mae'r her hirdymor i ddenu cwsmeriaid i'r stryd fawr yn parhau.

"Heb os mae'n cyfnod heriol iawn i'r sector arwerthu ar hyn o bryd," meddai Dr Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd

"Mae 'na nifer o ffactorau wedi cael effaith ar y stryd fawr, a 'da ni'n gweld bod y tueddiadau yn mynd i fyny ac i lawr."

Dr Robert Bowen yn gwisgo siaced du, ac yn sefyll yng nghanol stryd fawr Caerdydd ar ddiwrnod gwlyb.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n parhau i fod yn gyfnos heriol iawn i'r stryd fawr, yn ôl Dr Robert Bowen

Mae'n "anodd iawn dweud beth yw'r gyfrinach i gael stryd fawr i lwyddo," meddai Dr Bowen.

"Rhaid i bobl sydd gyda rheolaeth dros strydoedd fawr... sicrhau bod yr amodau yn dda er mwyn i fusnesau allu llwyddo yna.

"Mae cyfraddau busnes yn uchel iawn, mae rhentu yn uchel iawn, mae costau yn cyffredinol i fusnesau yn uchel iawn."

Wrth i gynnyrch sy'n boblogaidd ar TikTok geisio hawlio lle ar silffoedd y stryd fawr, y cwsmer sydd â'r pŵer i ddylanwadu ar ddyfodol ein trefi a dinasoedd.

Pynciau cysylltiedig