Arestio dau ar ôl i ddyn farw mewn tân ym Mhrestatyn

Mae'r heddlu'n dweud does dim byd i awgrymu fod y digwyddiad wedi'i ysgogi gan hiliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn lleol wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn farw mewn tân ym Mhrestatyn yn yr oriau man.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i dân mewn eiddo masnachol ar y Stryd Fawr yn y dref am 02:35 bore Llun, gyda chriwiau o Brestatyn, Y Rhyl a Llanelwy yn mynychu.
Mae ymchwiliad rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill i ddarganfod achos y tân.

Mae dau ddyn wedi'u harestio yn dilyn y digwyddiad bore Llun
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Simon Williams: “Rydym wedi arestio dau ddyn lleol sy’n cynorthwyo gyda’n hymholiadau, ond rydym yn cadw meddwl agored ynglŷn â’r amgylchiadau ar hyn o bryd.
“Byddwn yn annog y cyhoedd i beidio â dyfalu nes bod y ffeithiau llawn yn hysbys. Rydym yn cynorthwyo cydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lleoliad y digwyddiad i ddeall achos y tân.
“Does dim byd i awgrymu bod y digwyddiad hwn wedi’i ysgogi gan hiliaeth. Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn fu farw ar yr adeg drist hon.”