'Be ydy pwynt yswiriant' wnaeth wrthod tâl am anaf pen gêm hoci?

Disgrifiad,

Mae Claerwen Render wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith fel aelod o dîm arweiniol ysgol uwchradd ar ôl cael anaf i'w phen yn ystod gêm hoci

  • Cyhoeddwyd

"Fyswn i just yn licio un diwrnod bod heb gur pen. Dyna ydy bywyd fi rŵan. Os mai damwain oedd o, pam bod insurance ddim yn cyfro fi?"

Roedd Claerwen Render, mam 42 oed, wrth ei bodd gyda chwaraeon o bob math, ond fe newidiodd popeth pan gafodd ei tharo yn ei phen gan bêl hoci yn 2019.

Ers hynny, mae'r fam i dri yn dioddef meigrynau a gorflinder ac mae ei hincwm wedi haneru ar ôl iddi orfod rhoi'r gorau i'w gyrfa fel aelod o dîm rheoli mewn ysgol uwchradd er mwyn gweithio'n rhan amser.

Ond wedi iddi fethu cael taliad yswiriant am ei hanaf gan y sefydliad sy'n llywodraethu'r gamp, mae'n amau gwerth tâl aelodaeth.

Yn ôl y corff hwnnw, Hoci Cymru, mae nhw wedi gwella'u polisiau ar anaf i'r pen ond mae rhagor i'w wneud i sicrhau bod chwaraewyr yn deall cyfyngiadau eu hyswiriant.

'Dwi yn y niwl yna o hyd'

Roedd Ms Render yn chwarae i glwb Hoci Merched Rhuthun yn Nhachwedd 2019 pan gafodd ergyd ar ei harlais (temple) gan bêl gafodd ei tharo gan un o'i gwrthwynebwyr.

Wrth iddi waedu'n drwm, cafodd Claerwen ei chludo mewn ambiwlans i'r uned gofal brys agosaf.

Claerwen Render ar ôl y digwyddiad yn 2019Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Claerwen Render ar ôl y digwyddiad yn 2019

Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf fe geisiodd droeon i fynd yn ôl i'r ystafell ddosbarth fel athrawes mathemateg, ond roedd ymdopi'n anodd oherwydd nad oedd hi'n medru canolbwyntio.

"Dwi'n deffro efo cur yn pen, dwi'n mynd i gwaith efo cur yn pen, mae'n mynd yn waeth," meddai Claerwen sy'n byw yn Ninbych.

"Am y tair blynedd cyntaf o'n i'n crio, mynd adref, mewn cymaint o boen. O'n i'n cael nap, pigo'r plant i fyny, ddim yn siarad efo neb ar y buarth... Doedd gen i ddim byd ar ôl.

"Dwi yn y niwl yna o hyd, a cur yn pen, methu meddwl, os dwi'n dreifio'n rhy bell neu mynd â plant i weithgareddau, neu siarad efo rhywun yn rhy hir, neu aros yn gwaith. Mae o just yn dod, poen parhaol, dwi'n methu cael gwared ohono fo.

"Fedra i ddim mynd ddiwrnod heb gael cur pen, neu blinder neu exhaustion."

Claerwen Render yn chwarae hociFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Claerwen am dros 15 mlynedd cyn ei hanaf

Naw mis wedi'r digwyddiad fe gyflwynodd Mrs Render gais yswiriant trwy'r corff llywodraethu, Hoci Cymru.

Ond fe gafodd y cais ei wrthod am nad oedd yn cwrdd â'r gofynion a bod Claerwen yn dal i fedru gweithio rhywfaint.

Mae hi bellach yn gweithio pedwar bore'r wythnos ar ôl cael diagnosis o syndrom ôl-gyfergyd (post-concussion syndrome).

Mae hi'n rhwystredig na chafodd daliad ariannol na chymorth ymarferol gan Hoci Cymru.

"Cyn y ddamwain yma fyswn i'n disgwyl - dwi wedi talu fy yswiriant am 15 mlynedd - o'n i'n disgwyl efo rhywbeth fel anaf i'r ymennydd, dylech chi gael eich cyfro." meddai.

"Dwi ddim yn dallt. Be' ydy pwynt yswiriant nhw? Be' dwi'n talu am? Be' mae'r holl bobl yn talu am?

"Dwi'n lost for words really, y siom. Mae'n effeithio fi bob diwrnod. Os mai damwain oedd o, pam bod insurance chi ddim yn cyfro fi?"

"Be' 'dach chi'n wneud i helpu ni fel chwaraewyr os mae damweiniau'n digwydd?"

Dr Rhys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Rhys Davies yn dweud bod rhagor i'w wneud er mwyn gwella ymwybyddiaeth o anafiadau pen mewn chwaraeon

Mae'r niwrolegydd Dr Rhys Davies yn pwysleisio'r manteision pwysig sy'n dod o gymryd rhan mewn chwaraeon, yn arbennig i'r ymennydd, ond yn teimlo bod angen i'r cyrff sy'n rheoli campau wella'r mesurau i atal anafiadau fel cyfergydion.

"Dwi'n meddwl bod yr ymwybyddiaeth yn cynyddu ond mae'n debyg bod angen safoni'r ffordd 'dan ni'n delio efo'r sialens yma."

"Mae'n debyg bod 'na ffyrdd o chwarae hoci, rygbi a phêl-droed yn gystadleuol ac eto bod rywfaint yn fwy ymwybodol o oblygiadadu anaf."

Cydnabod yr 'effaith go iawn'

Yn ôl elusen Headway, sy'n helpu pobl yn dilyn anaf i'r ymennydd, mae hefyd angen i chwaraewyr gael rhagor o wybodaeth am faint o gymorth allai ddeillio o bolisïau yswiriant.

"Mae'n rhywbeth sydd angen i gyrff llywodraethu chwaraeon fod yn fwy tryloyw yn ei gylch a chyfleu i bobl o dan ba amgylchiadau y buasen nhw yn cael cymorth fel y gall pobl gymryd yswiriant ychwanegol os oes angen, rhag colli incwm er enghraifft," medd llefarydd.

"Mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwybod beth yw'r cymorth a bod y lefel hwnnw o gymorth yn cael ei wneud yn glir fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl."

Cafodd polisi Hoci Cymru ar gyfergydion ei gyflwyno gyntaf yn 2021.

Dywedodd Hoci Cymru na allan nhw wneud sylw am achos yswiriant unigol ond eu bod yn cydnabod yr "effaith go iawn" mae anaf Claerwen Render wedi ei gael a'u bod yn cymryd ei phryder o ddifrif.

"Mae'r sefyllfa hon yn tanlinellu pwysigrwydd cyfathrebu clir a thryloywder o ran cymorth ysiwiriant."

Mae'r corff llywodraethu yn dweud eu bod wedi gwella eu systemau ar anafiadau pen, addysg chwaraewyr a'r prosesau diogelwch, ond "mae yna wastad ragor i'w wneud, yn arbennig i sicrhau bod chwaraewyr yn deall hyd a lled a chyfyngiadau'r ysiwiriant sy'n cael ei gynnig trwy eu haelodaeth".

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag ein hyswirwyr, ein clybiau a'n partneriaid eraill fel corff llywodraethu i sicrhau bod polisiau yn glir, teg ac yn cynorthwyo lles ein chwaraewyr."

Pynciau cysylltiedig