Dynes wedi gorfod colli ei choluddyn yn sgil rhwymedd difrifol

Kathryn Nicklas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd coluddyn mawr Kathryn Nicklas ei dynnu mewn llawdriniaeth ar ôl iddi ddioddef problemau gyda rhwymedd am flynyddoedd lawer

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes sydd wedi gorfod cael llawdriniaeth i dynnu ei choluddyn yn sgil rhwymedd cronig a difrifol yn galw ar bobl i fod yn fwy agored am weithredoedd y corff.

Cafodd Kathryn Nicklas, 26, wybod am flynyddoedd mai syndrom coluddyn llidus (IBS) oedd achos ei rhwymedd, ac fe gafodd sawl presgripsiwn am foddion gweithio, neu laxatives.

Dywedodd ei bod yn teimlo embaras am ei symptomau pan yn ifanc, a bod hynny wedi ei gwneud yn anoddach i berswadio eraill i'w chymryd o ddifrif.

Yn ôl yr Athro Julie Cornish, meddyg iechyd y pelfis blaenllaw, mae nifer o gleifion angen llawdriniaeth am broblemau o'r fath, ond mae datrysiadau symlach yn bosib os yw symptomau yn cael eu hamlygu yn gynharach.

Dywedodd Ms Nicklas, sy'n gweithio yng ngogledd Cymru, ei bod yn cymryd moddion gweithio "fel petai nhw'n felysion" cyn ei llawdriniaeth ond ei bod yn "dal i'w chael yn anodd mynd i'r toiled".

"Ro'n i'n byw mewn ffrogiau llac gan 'mod yn teimlo'n llawn o hyd, a nes i hyd yn oed brynu dillad beichiogrwydd er mwyn gallu bod yn gyfforddus," meddai.

"Os oedd modd i fi fynd i'r toiled, byddai hynny o ganlyniad i ddyfrhau neu enema.

"Fyddwn i'n cyrraedd adref o'r gwaith ac yn treulio awr ar y toiled - doedd dim bywyd gen, ro'n i wastad yn anghyfforddus.

"Ar un pwynt, es i ddim i'r toiled am bedair wythnos a bu'n rhaid i mi fynd i'r ysbyty.

"Dywedon nhw fod cymaint o ysgarthion ynof fi, fod popeth wedi stopio gweithio."

Kathryn NicklasFfynhonnell y llun, Kathryn Nicklas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kathryn Nicklas ei bod wedi prynu dillad beichiogrwydd ar un pwynt gan ei bod mor anghyfforddus yn ei dillad arferol

Er iddi gael sawl prawf a newid ei diet, ni ddaethpwyd o hyd i achos y broblem.

Ond roedd blynyddoedd o rwymedd wedi cael effaith ar organau'r pelfis - oedd yn golygu ei bod yn dioddef poen, gwaedu o'r wain a theimlo'n llawn.

Cafodd coluddyn mawr Ms Nicklas ei dynnu mewn llawdriniaeth yn 2022.

'Pam fod mynd i'r toiled yn achos embaras?'

Wrth edrych yn ôl, mae Ms Nicklas yn cwestiynu pam ei bod hi wedi teimlo cymaint o embaras yn trafod gweithredoedd sylfaenol y corff.

"Pam fod mynd i'r toiled yn achos embaras os ydy o'n weithred gwbl normal y mae pawb yn ei wneud?

"A fyddai'r rhwymedd wedi bod yn well os nad o'n i wedi gwrthod mynd i'r toiled oni bai 'mod i adref a neb o gwmpas i fy nghlywed? Dydi hynny ddim yn iach.

"Gan 'mod i wedi profi rhwymedd dros gyfnod mor hir mae fy nghorff wedi cael ei effeithio.

"Mae llawr y pelfis yn cael ei chwalu gan y ffaith eich bod chi wastad yn trio mynd ond yn methu."

Yr Athro Julie Cornish
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwella dealltwriaeth pobl o iechyd y pelfis, a hynny yn gynt mewn bywyd, meddai'r Athro Julie Cornish

Mae'r Athro Cornish yn dweud fod materion iechyd y pelfis yn effeithio ar ddynion a merched.

"Mae'n fater iechyd cyhoeddus, ac mae angen i ni fod yn rhoi gwybodaeth i bobl yn gynt - dim merched yn unig sy'n cael eu heffeithio, mae bechgyn a dynion hefyd, ac mae'n effeithio pawb mewn ffyrdd gwahanol," meddai.

"Ond os ydych chi'n profi rhwymedd cronig am nifer o flynyddoedd yna rydych chi'n fwy tebygol o ddatblygu problemau gyda chwymp y groth."

Mae'r Athro Cornish yn un o sylfaenwyr Gŵyl Iechyd Everywoman yng Nghaerdydd, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn.

Bydd 1,000 o dicedi yn cael eu rhoi am ddim i bobl ifanc eleni, a bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnwys sesiynau yn trafod iechyd y pelfis, iechyd y mislif a gwybodaeth am rannau o'r corff.

Shakira Hassan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shakira Hassan yn dweud bod stigma ynglŷn â materion sy'n effeithio ar iechyd y pelfis yn broblem fawr

Dywedodd Shakira Hassan, ffisiotherapydd sy'n arbenigo ar iechyd menywod, fod problemau o'r fath yn gyffredin iawn, ond bod angen addysgu pobl fel bod modd iddyn nhw barhau i fyw bywydau normal.

Ychwanegodd fod stigma yn ffactor enfawr, a bod hynny yn waeth o fewn rhai diwylliannau.

"Rydyn ni'n gwybod fod cymaint ag un o bob tri menyw yn profi anymataliaeth wrinol, ac un o bob pedwar yn profi rhywfaint o anymataliaeth ysgarthol yn ystod eu bywyd," meddai.

"Mae'r niferoedd yna'n enfawr - mae mor gyffredin."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae iechyd a lles yn ran gorfodol o'r Cwricwlwm i Gymru ac yn helpu dysgwyr i ddeall gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar eu hiechyd corfforol.

"Mae'n canllawiau ni yn nodi bod disgwyl i blant ddysgu am ystod eang o gyflyrau iechyd all effeithio arnyn nhw."

Pynciau cysylltiedig