Ethol Laura McAllister yn aelod o bwyllgor gwaith UEFA

Yr Athro McAllisterFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Laura McAllister yw'r Gymraes gyntaf erioed i gael ei derbyn i bwyllgor gwaith UEFA

  • Cyhoeddwyd

Mae’r Athro Laura McAllister wedi’i hethol yn swyddogol yn aelod o bwyllgor gwaith UEFA.

Hi yw'r Gymraes gyntaf erioed i gael ei derbyn i bwyllgor gwaith y corff sy'n llywodraethu pêl-droed Ewrop.

Cafodd ei rôl ei chadarnhau mewn cyfarfod yn Lisbon, Portiwgal ddydd Mercher.

Yn ddiweddarach, cadarnhaodd Llywydd UEFA, Aleksander Čeferin bod yr Athro McAllister hefyd wedi'i phenodi yn Is-Lywydd.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan UEFA

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan UEFA

Mae'r Athro McAllister, 58, yn ddirprwy gadeirydd pwyllgor pêl-droed merched UEFA ac yn aelod o'i weithgor ar gydraddoldeb rhywiol.

Roedd disgwyl iddi sefyll etholiad fis yma ar gyfer y swydd ar y pwyllgor gwaith.

Ond daeth cadarnhad ym mis Chwefror ei bod wedi'i phenodi'n ddiwrthwynebiad.

Enillodd 24 cap dros Gymru, a hi oedd un o'r lleisiau mwyaf blaenllaw i berswadio Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gydnabod yr angen am dîm pêl-droed rhyngwladol i ferched.