Laura McAllister i ymuno â phwyllgor llywodraethu UEFA
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten Cymru, yr Athro Laura McAllister, wedi sicrhau lle ar bwyllgor corff lywodraethu pêl-droed Ewrop.
Roedd disgwyl i'r Gymraes sefyll etholiad ar gyfer y swydd ar bwyllgor gwaith UEFA ym mis Ebrill, ond ddydd Iau daeth cadarnhad ei bod wedi'i phenodi'n ddiwrthwynebiad.
Yn 58 oed, hi yw'r person cyntaf o Gymru i wasanaethu ar bwyllgor y corff.
Wedi ennill 24 cap dros Gymru, hi oedd un o'r lleisiau mwyaf blaenllaw i berswadio Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gydnabod yr angen am dîm pêl-droed rhyngwladol i ferched.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar y daith hon hyd yn hyn," meddai McAllister.
"Mae pêl-droed Cymru yn torri drwy sawl nenfwd gwydr ar hyn o bryd, a bydd ymuno â phwyllgor gweithredol UEFA yn gamp aruthrol i CBDC ac yn adeg falch iawn i fi a fy nheulu.
"Unwaith y caf fy ethol yn swyddogol i'r pwyllgor gwaith yn y gyngres ym mis Ebrill byddaf yn rhoi'r cyfan sydd gen i er mwyn gwella pêl-droed Ewropeaidd, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at ddyfodol disglair i bêl-droed i bawb yn ein gêm brydferth."
Collodd McAllister etholiad i fod yn gynrychiolydd UEFA dros ferched ar gyngor FIFA yn 2021.
Fe gollodd y bleidlais o 33-22 i Evelina Christillin o'r Eidal, oedd eisoes yn eistedd ar y corff.
Mae McAllister yn ddirprwy gadeirydd pwyllgor pêl-droed merched UEFA ac yn aelod o'i weithgor ar gydraddoldeb rhywiol.
"Mae strategaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru 'Ein Cymru Ni' yn ymrwymo i gael ein llais ar brif fyrddau pêl-droed Ewrop a'r byd," ychwanegodd prif weithredwr CBDC, Noel Mooney.
"Pan fydd statws Laura ar bwyllgor gwaith UEFA yn cael ei gadarnhau'n ffurfiol ym mis Ebrill, byddwn wedi cyflawni carreg filltir enfawr arall yn ein strategaeth, gyda Laura y person cyntaf o Gymru ar fwrdd UEFA neu FIFA yn hanes CBDC.
"Mae CBDC yn cynrychioli cenedl fodern, flaengar a gwn y bydd gwybodaeth a phrofiad Laura yn gaffaeliad mawr i deulu pêl-droed eang ac amrywiol Ewrop.
"Bydd hi hefyd yn cynrychioli Cymru a phêl-droed Cymru yn gadarnhaol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd8 Medi 2016