Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd

Cafodd yr heddlu eu galw i Bentre Llaneirwg yn oriau mân fore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 61 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad difrifol honedig yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tu allan i dafarn The Church Inn ym Mhentre Llaneirwg tua 1yb ddydd Sadwrn.
Mae ditectifs yn chwilio am ddyn 28 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac yn apelio am dystion.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Laura Slocombe o Heddlu De Cymru:
"Rydyn ni yn gwybod bod yna bobl yn yr ardal adeg y digwyddiad. Os nad ydyn nhw wedi siarad â swyddogion, rydym yn eu hannog i gysylltu â ni.
"Mae'r dyn sy'n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â'r digwyddiad hefyd yn gwybod ein bod yn edrych amdano, ac rydym yn ei annog i fynd i orsaf heddlu."