Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio wedi ymosodiad honedig

Tafarn y Picture House yng NglynebwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad tua 11:25 fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw yn dilyn ymosodiad honedig y tu allan i dafarn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger tafarn The Picture House ar Stryd y Farchnad yng Nglynebwy tua 11:25 ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y dioddefwr 52 oed eisiau mynd i'r ysbyty.

Ond cafodd ei ddarganfod yn anymwybodol mewn eiddo ar Stryd y Brenin yn y dref ddydd Mercher.

Bu farw'r dyn ac mae ei deulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae dyn 45 oed o ardal Glynebwy wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig