Dedfrydu swyddog carchar a gafodd berthynas 'amhriodol' â charcharor

- Cyhoeddwyd
Mae swyddog mewn carchar wedi derbyn dedfryd 10 mis, wedi ei ohirio, ar ôl cael perthynas amhriodol gyda charcharor oedd ar drwydded.
Cafodd Megan Breen, 23, a oedd yn gweithio yng Ngharchar Prescoed, ei dedfrydu am gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Fe glywodd y llys fod Breen wedi dweud wrth y carcharor ei bod yn ei garu, a'i bod wedi cael rhyw gyda'r dyn ar ôl cwrdd ag ef "am ddiodydd" yn Lerpwl, tra ar drip pen-blwydd 20 oed gyda dau weithiwr arall o'r carchar.
Clywodd y llys fod Breen wedi cwrdd â rhieni y carcharor, ac fe wnaeth y diffynnydd a'r carcharor yrru cannoedd o negeseuon testun at ei gilydd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y diffynnydd, sydd bellach yn feichiog, yn "aelod o staff cymorth gweithredol" yn y carchar, a oedd â "chysylltiad uniongyrchol â charcharorion" yng Ngharchar Prescoed.
Fe dderbyniodd wythnos o hyfforddiant cyn cyflawni dyletswyddau fel goruchwilio ymwelwyr, gwirio bod carcharorion yn bresennol a monitro galwadau ffôn carcharorion.
Clywodd y llys ei bod wedi dysgu am "godau ymddygiad" yn ystod ei hyfforddiant, a dywedwyd wrthi fod perthynas gyda charcharor wedi ei "wahardd yn glir".
Clywodd y llys fod y carcharor wedi cael ei drosglwyddo i Garchar Prescoed ar 26 Mai 2021 am ei fod yn rhan o gynllun i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Fe ddechreuodd Breen gael "perthynas amhriodol" gyda'r carcharor rhwng 28 Chwefror ac 1 Mai 2022.
Pryderon gan gydweithwyr
Cafodd pryderon eu codi gan gyd-weithiwr i Breen, William Morgan, a oedd yn gweithio gyda Breen ym Mawrth 2022.
Dywedodd Mr Morgan fod Breen wedi cael mynediad heb ganiatad i fas-data cyfrifiadur y carchar i ddangos llun o'r carcharor.
Clywodd y llys fod Breen wedi gadael y llun ar y sgrin ac yna wedi dweud wrth Mr Morgan am drip diweddar i Lerpwl, lle dywedodd, "ei bod wedi cysgu gyda dyn".
Dywedodd: "Roedd y dyn yn garcharor yng Ngharchar Prescoed ac yn arfer siarad ag ef tra'n gweithio yn ystod y nos."
Dywedodd Mr Morgan ei fod wedi "syfrdanu", a phan ofynnodd pwy oedd y carcharor, dywedodd fod y diffynnydd wedi "pwyntio at y sgrin" yn dangos y carcharor.
Cafodd y carcharor ei ryddhau ar drwydded ar 31 Mawrth.
Dywedodd Breen ei bod wedi cwrdd â'r carcharor tra roedd ar ymweliad cartref yn ardal Glannau Mersi.
Dywedodd eu bod wedi cwrdd ag ef am ddiodydd cyn mynd yn ôl i'w hystafell.
Dywedodd Breen ei bod wedi cwrdd â'i deulu, a dweud bod "nhw'n ei hoffi hi a hi'n eu hoffi nhw".
Dywedodd ei bod wedi teithio i Lerpwl gyda dau gydweithiwr oedd "hefyd yn gwybod am y berthynas", fel yr oedd rhai carcharorion, clywodd y llys.
Ond dywedodd Breen wrth Mr Morgan, "does neb yn mynd i ddweud wrth unrhyw un".
Fe wnaeth sawl ymweliad pellach o gwmpas yr un cyfnod, clywodd y llys.
Clywodd y llys fod Mr Morgan wedi rhoi gwybod i reolwr diogelwch y carchar yn ddiweddarach.
Wedi rhoi gweithwyr mewn 'sefyllfa anodd'
Clywodd y llys bod darn o bapur gyda rhif ffôn a manylion Snapchat Breen wedi ei ganfod yng nghell y carcharor.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd ganfod negeseuon rhwng y par oedd yn dangos "perthynas bersonol, ramantus", gyda'r ddau'n dweud eu bod yn caru ei gilydd.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke bod Breen "yn gwybod bod yr hyn yr oeddech chi'n ei wneud yn anghywir" ac "wedi ffurfio perthynas arwyddocaol â charcharor".
Dywedodd fod Breen wedi rhoi dau o'i chydweithwyr mewn "sefyllfa anodd iawn".
Dywedodd fod yn rhaid iddi ystyried bod gan y diffynnydd blentyn, ei bod hi'n feichiog ac yn gofalu am blentyn arall a galwodd hyn yn "achos eithriadol".
Derbyniodd Breen ddedfryd o 10 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis.
Cafodd orchymyn i wneud 15 diwrnod o waith di-dâl a thalu £500 mewn costau.