Dyn o Gaerdydd dal yn y carchar 20 mlynedd ar ôl dwyn ffôn

Llun o Leroy DouglasFfynhonnell y llun, Leroy Douglas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leroy Douglas wedi bod yn y carchar ers 2005 ar ôl cael dedfryd amhenodol

  • Cyhoeddwyd

Mae tad i ddyn o Gaerdydd, sydd wedi treulio 20 mlynedd yn y carchar am ddwyn ffôn symudol, yn dweud bod ei fab wedi wynebu "dedfryd oes".

Fe gafodd Leroy Douglas, 44, leiafswm o ddwy flynedd a hanner yn y carchar yn 2005 am ddwyn, ond mae dal yn y carchar gan ei fod yn destun dedfryd amhenodol er mwyn amddiffyn y cyhoedd (IPP).

Daeth y mesur dadleuol hwnnw i ben yn 2012 ond mae ymgyrchwyr yn galw ar y rhai hynny sydd yn dal i wynebu dedfyrdau IPP i gael eu hail-ddedfrydu, ac maen nhw nawr wedi cyflwyno achos i'r Cenhedloedd Unedig yn erbyn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi rhyddhau'r nifer uchaf o garcharorion IPP erioed y llynedd gyda chefnogaeth ychwanegol yn cael ei roi i'r rhai sydd yn dal yn y ddalfa.

'Roedd yn blentyn normal'

Roedd dedfrydau IPP yn golygu bod modd cadw carcharorion yn y ddalfa am gyfnod amhenodol, os oedd y bwrdd parôl yn penderfynu nad oedd yn ddiogel eu rhyddhau.

Diben y mesur oedd cael ffordd o gadw troseddwyr oedd yn peri risg "sylweddol" i ddiogelwch y cyhoedd yn y carchar.

Ond, cafodd ei feirniadu'n llym ar ôl i ddedfrydau IPP gael eu rhoi am droseddau llai difrifol.

Dywedodd Anthony Douglas, 63, fod ei fab yn "blentyn normal" wrth iddo dyfu i fyny, ond roedd yn cael ei "arwain yn hawdd" i wneud penderfyniadau gwael.

Dywedodd fod Leroy Douglas a'i ffrindiau wedi dechrau mynd mewn i drwbl pan oedden nhw yn eu harddegau ac fe gafodd euogfarnau am droseddau, gan gynnwys dwyn o siopau.

Ond, dywedodd fod y cyfan wedi "gwaethygu" pan gafodd y tad i ddau o blant ei ddedfrydu am ddwyn ffôn symudol - oedd yn eiddo i gariad ei gefnder, yn 2005.

Yn lle cael dedfryd o ddwy flynedd a hanner, cafodd ddedfryd IPP, oedd yn "sioc i bawb" meddai'r teulu.

"Cafodd ddwy flynedd a hanner a'r peth nesaf mae e dal yno'r holl flynyddoedd yma'n ddiweddarach," meddai Mr Douglas.

"Roeddwn i'n disgwyl iddo wneud hanner y ddwy flynedd a hanner ac yna cael cyfle i ddechrau o'r newydd."

Llun o Leory Douglas (dde) a'i chwaerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leroy, sydd drws nesaf i'w chwaer Natalie, yn "blentyn normal" yn ôl eu Tad cyn iddo ddechrau mynd mewn i drwbl

Dyw Mr Douglas ddim wedi gallu teithio i weld ei fab ers iddo gael ei ddedfrydu, ond mae'n siarad ag ef yn rheolaidd ar y ffôn.

Ers bod yn y carchar mae Leroy Douglas wedi cael gwybod am farwolaeth ei ferch ar ôl iddi ddioddef gwaedlif angheuol ar yr ymennydd yn 20 oed.

Mae wedi colli neiniau a theidiau hefyd yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys aelodau eraill o'r teulu.

Dywedodd ei dad fod hyn wedi effeithio ar ei iechyd meddwl.

Yn ôl Mr Douglas, mae wedi cael ei symud sawl gwaith i wahanol gyfleusterau, sydd wedi arwain ato'n gorfod ailwneud sesiynau hyfforddi a chyrsiau sydd eu hangen arno cyn y gallai gael ei ystyried i gael ei ryddhau.

"Nid ni yw'r unig rai sy'n dioddef, mae'r teulu cyfan yn dioddef gydag ef yn y carchar," meddai.

Llun o Natalie (chwith) ac Anthony DouglasFfynhonnell y llun, Natalie Douglas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd chwaer Leroy, Natalie, a'i dad, Anthony eu bod wedi colli anwyliaid yn ystod cyfnod Leroy dan glo

Fe wnaeth Mr Douglas gyfaddef fod ei fab wedi cael problemau gyda'i ymddygiad ers bod yn y ddalfa.

Ond, fe ychwanegodd mai bod mewn carchar o oedran ifanc sydd wedi creu'r "hyn y mae e heddiw".

"Mae ei deulu y tu allan, felly ar y tu mewn - yr unig bobl i edrych fyny arnyn nhw sydd ganddo, yw'r rhai sy'n y carchar yn barod," meddai.

"Dechreuodd ymddwyn yn wael gan fod e'n teimlo ei fod e'n annheg ei fod wedi cael ei gadw yno mor hir."

Er bod Leroy Douglas wedi wynebu problemau â chyffuriau yn y gorffennol, dywedodd ei dad ei fod wedi profi'n lân am gyffuriau tra yn y carchar.

'Sefyllfa annheg'

Mae un o fargyfreithwyr troseddol Apex Chambers, Andrew Taylor, wedi cynrychioli sawl cleient sydd wedi cael dedfrydau IPP.

Disgrifiodd y sefyllfa fel un "draconaidd ac annheg".

Dywedodd Mr Taylor fod angen "ail-ddedfrydu ar raddfa fawr".

"Mae'r bobl yma nawr yn anobeithiol, does dim gobaith ganddyn nhw i gael eu rhyddhau - a all arwain at ymddygiad treisgar mewn carchardai" meddai.

Ychwanegodd bod prinder llefydd mewn carchardai ac "mae gormod o lefydd yn cael eu cymryd gan y bobl hyn".

"Nod cyntaf carchar dylai fod adsefydlu'r bobl, ac mae dedfrydau IPP yn mynd yn groes i hynny."

Llun teuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae dedfryd IPP Leroy wedi effeithio ar y teulu cyfan, meddai Anthony Douglas

Mae ffigurau o fis Mehefin yn dangos bod tua 2,500 o garcharorion - naill ai heb gael eu rhyddhau erioed, neu wedi cael eu galw yn ôl i'r carchar oherwydd y cynllun IPP.

Ddydd Iau, fe aeth ymgyrchwyr o Gymru i Downing Street i gyflwyno llythyr yn galw am ddiddymu'r dedfrydau ac ail-ddedfrydu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

Mae'r grŵp hefyd wedi cyflwyno achos yn erbyn llywodraeth y DU a'i roi gerbron Grŵp Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar Gadw Mympwyol.

Yn y llythyr, mae'r ymgyrchwyr yn annog y llywodraeth i "wneud y peth iawn trwy fynd i'r afael ag un o'r camweinyddiadau cyfiawnder mwyaf", gan "adfer gobaith a chyfiawnder i filoedd o garcharorion IPP a'u teuluoedd".

Ymateb yr Weinyddiaeth Gyfiawnder

Yn ôl data'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mae nifer y bobl gafodd eu rhyddhau o'r carchar, ond sy'n byw gyda dedfyrd IPP, wedi gostwng o 3,018 i 1,134 rhwng Rhagfyr 2023 a Mawrth 2025.

Fe gafodd 602 o garcharorion IPP oedd wedi cael eu galw yn ôl i'r ddalfa eu rhyddhau yn ystod y 12 mis diwethaf - y nifer uchaf i gael ei rhyddhau mewn blwyddyn.

Dywedodd yr Weinyddiaeth hefyd: "Rydym yn benderfynol o wneud cynnydd yn y nifer sy'n cael eu rhyddhau mewn modd diogel a chynaliadwy - ond nid mewn ffordd sy'n tanseilio diogelwch y cyhoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig