Gwella'n gynt o driniaeth fawr wedi sesiynau yn y gampfa

Claf yn defnyddio peiriant rhwyfo yn y gampfa yn Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymarfer yn y gampfa cyn cael llawdriniaeth fawr wedi helpu cleifion wella'n gynt wedi'r driniaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae cleifion yn y gogledd sy'n aros i gael llawdriniaethau mawr yn cael cyfle i ddilyn rhaglen ymarfer corff dwys a chyngor deietegol er mwyn eu helpu i wella'n gynt.

Mae dros 200 o gleifion wedi defnyddio gwasanaeth rhagsefydlu (prehabilitation) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddo ddechrau flwyddyn yn ôl yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2019.

Yn y mis cyn eu llawdriniaethau mae cleifion yn mynd i dri sesiwn yr wythnos mewn campfa.

Fe gafodd y gampfa ei hariannu gan elusen Shooting Star Cancer Support yn Wrecsam.

Dywed y bwrdd iechyd bod ymarfer corff wedi haneru achosion o gymhlethdodau wedi llawdriniaethau a byrhau'r cyfnod mae'n rhaid i glaf aros yn yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tracey Griffiths yn nerfus wrth feddwl am ymarfer ond mae staff wedi tawelu ei hofnau

Mae Tracey Griffiths, o bentref Brymbo yn Wrecsam, yn aros am driniaeth i drin canser endometraidd ac mae wedi dechrau ei hail wythnos o sesiynau yn y gampfa.

Roedd yn ofni rhoi cynnig arni i ddechrau ond mae staff wedi tawelu ei hofnau.

"Ro'n i'n nerfus iawn achos dwi heb fod mewn gym ac yn meddwl : 'O, mam bach!' achos dwi'n hogan fawr, ond maen nhw'n wneud i chi deimlo croeso yma - maen nhw'n wych."

Fe fydd, mae hi'n gobeithio, yn gwella ei gwytnwch yn gorfforol ac yn feddyliol.

"Dwi'n gobeithio bydd yn fy ngwneud i'n gryfach ac yn fy helpu yn feddyliol achos ro'ni'n poeni'n fawr am y llawdriniaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae sesiynau Tai Chi yn rhan o'r rhaglen rhagsefydlu

Mae'r rhaglen rhagsefydlu wedi ei llunio ar gyfer pobl â ffactorau risg ychwanegol.

Ar gyfartaledd, mae cleifion yn gadael yr ysbyty dau ddiwrnod a hanner yn gynt.

Mae yna lai yn gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty hefyd o ganlyniad i'r rhaglen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael llawdriniaeth fawr yn cael effaith debyg i redeg marathon ar glaf, medd Dr Neil Agnew

Dywed yr anesthetydd ymgynghorol Dr Neil Agnew nad yw pobl yn aml yn llawn ddeall maint effaith bosib llawdriniaeth.

Mae yna debygrwydd, meddai, rhwng llawdriniaeth fawr a "rhedeg marathon".

"'Dan ni'n darparu ymarfer dwys, 'dan ni'n edrych ar faeth a deiet er mwyn gwneud y gorau o'r rheiny," dywedodd.

"Mae seicoleg hefyd yn wirioneddol bwysig. Mae'r cleifion yma wedi cael diagnosis canser ac mae'n rhaid iddyn nhw ddod i delerau â hynny, a pharatoi ar gyfer llawdriniaeth fawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Norton yn dweud bod cymryd rhan yn y rhaglen "yn rhywbeth roeddwn i'n gallu rheoli"

Roedd cael diagnosis canser y coluddyn fis Rhagfyr diwethaf yn sioc i Jeremy Norton, 63, o Frychdyn, Sir Y Fflint.

"Roedd yn gyfnod o ansicrwydd mawr," meddai, wnaeth troi ei fywyd "wyneb i waered".

Gan fod "popeth arall allan o reolaeth", roedd cymryd rhan yn y rhaglen rhagsefydlu "yn rhywbeth roeddwn i'n gallu rheoli, rhywbeth y gallwn i wneud i gryfhau fy hun".

Roedd ymarfer yng nghwmni pobl eraill â phroblemau iechyd eu hunain yn help, ac mae'n dweud iddo wella'n "annisgwyl" o fuan wedi ei driniaeth.

"Ro'n i allan i'r ysbyty mewn pum niwrnod... mewn ar y dydd Iau, allan ar y dydd Llun ac yn ôl yn y gwaith mewn pedair wythnos.

"Y prehab oedd i gyfri am hynny - roedd y nerth nath o roi i mi yn rhan o'r broses o wella."