Joe Morrell yn ymddeol o bêl-droed yn 28 oed oherwydd anaf

Joe MorrellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Joe Morrell am y tro cyntaf i Gymru yn 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru, Joe Morrell, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad yn 28 oed oherwydd anaf.

Doedd y chwaraewr canol cae heb glwb ers cael ei ryddhau gan Portsmouth ar ddiwedd tymor 2023-24.

Cafodd Morrell 37 o gapiau dros Gymru, gan chwarae yn Euro 2020 a Chwpan y Byd yn 2022, ond nid yw wedi chwarae ers anafu ei ben-glin ym mis Ionawr 2024.

"Nid ydy hyn yn rhywbeth yr oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n ei ysgrifennu yn 28 oed, ond heddiw rydw i wedi ymddeol yn swyddogol o bêl-droed proffesiynol," meddai mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ychwanegodd fod yn rhaid iddo "gyfaddef y ffaith nad ydw i'n gallu gwneud hyn bellach", ar ôl bron i ddwy flynedd o geisio cael ei gorff yn barod i chwarae eto.

"Mae wedi bod yn 21 mis anhygoel o anodd, yn llawn addewid, gobaith, dagrau ac eiliadau tywyll, ond dwi'n fodlon hefo'r ffaith na fyddaf yn gallu chwarae eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.