Pum munud gyda... y Doctor Cymraeg

Stephen Rule a’i fab mewn gêm bêl-droedFfynhonnell y llun, Stephen Rule
Disgrifiad o’r llun,

“Dw i ‘mond yn ateb i ‘Doctor,’ ‘Syr’ (yn y gwaith), neu ‘Dadi’ dyddie yma!”

  • Cyhoeddwyd

Mae gan y Doctor Cymraeg filoedd o ddilynwyr ar Twitter, TikTok, Instagram a YouTube, ble mae’n postio fideos hwyliog i helpu dysgwyr gydag ystyr a tharddiad geiriau ac ymadroddion Cymraeg.

Un o drigolion balch Sir y Fflint a gafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg sydd y tu ôl i gyfrifon y Doctor. Wedi ei fagu yng Nghoed-llai ger Wrecsam, cafodd Stephen Rule ei addysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg gan gymryd at yr iaith yn ei arddegau, ei dysgu a mynd ymlaen i ennill gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth.

Mae’n byw gyda’i deulu yng Nghaergwrle, yn awdur nifer o lyfrau am ddysgu Cymraeg ac yn gweithio fel athro Cymraeg.

Faint o Gymraeg oedd o dy gwmpas pan oeddet ti’n tyfu i fyny?

Doedd dim Cymraeg o gwmpas o gwbl pan o’n i’n tyfu fyny. Roedd gwersi Cymraeg yn yr ysgol ‘mond awr neu ddwy yr wythnos.

Ers i ni golli Taid, dw i ‘di ffeindio ei fod lawr ar y Census fel siaradwr Cymraeg ers pan oedd o’n blentyn, ond ddaru o ddim pasio’r iaith ymlaen i’w blant. ‘O’n i’n clywed o’n dweud ambell i beth yn Gymraeg fel “Dw i wedi blino, dw i’n mynd i gysgu” a “Tshyd o’ne” wrth y cŵn. Ond dim lot mwy na hynny.

Ar y pryd, do’n i ddim yn ymwybodol fod o’n siarad iaith wahanol, ond mae’n braf gwybod rŵan mai ganddo fo ges i fy Nghymraeg gynta’.

Beth sydd wedi dy wneud mor angerddol am y Gymraeg?

Dim syniad. Dw i’n meddwl wnaeth o ddod pan o’n i yn yr ysgol uwchradd, tua 12 oed. Pan ydych chi yn yr ysgol, chi naill ai isio bod fel pawb arall, neu’n hollol unigryw. Mi ‘o’n i isio bod yn unigryw, ac mi oedd y Gymraeg yn rhoi’r cyfle i fi fod yn unigryw, ac i deimlo’n agosach at le ges i fy ngeni a fy magu, wrth gwrs.

Yn eironig, pan ddaru fi ddod ar draws siaradwyr go iawn pan es i i’r brifysgol, wnaeth y teimlad o fod yn unigryw newid yn sydyn iawn i fod yn deimlad o gymuned; oedd yn hyfryd iawn i’w brofi hefyd.

Sut ddaeth y Doctor Cymraeg i fod a beth oeddet ti’n ei weld oedd y ‘bwlch yn y farchnad’ pan wnest ti ddechrau gwneud fideos ar-lein?

Do’n i ddim yn chwilio am fwlch yn y farchnad pan ddaru fi ddechrau Doctor Cymraeg. Ro’n i ‘mond isio helpu pobl oedd ar y daith i’r Gymraeg a dangos iddyn nhw fod hwyl i’w gael ar ben y trafferthion a’r rhwystrau hefyd.

Dros y cyfnod clo, ddaru fi weld llwyth o bobl yn gofyn cwestiynau ar wefannau cymdeithasol ac yn cael tua 20 o atebion mewn gwahanol dafodieithoedd ac i raddau amrywiol o gywirdeb.

Roedd y bobl oedd wedi gofyn y cwestiwn yn y lle cynta’ yn ymateb i ddweud bod yr atebion i gyd wedi drysu nhw’n fwy. Roedd hyn wedi torri nghalon i, felly ro’n i isio cynnig un lle i bobl fynd i gael eu hatebion, a bach o anogaeth hefyd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan DoctorCymraeg

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan DoctorCymraeg

Rwyt ti’n athro yn Ysgol Maelor yn dy waith o ddydd i ddydd. Sut wyt ti’n gweld sefyllfa’r iaith yn dy ardal?

Dw i’n cofio clywed y cwestiynau stereotypical pan ddaru fi ddechrau yn yr ysgol; ‘Why do I have to learn this?’ ac yn y blaen. Diolch byth, wnes i glywed y cwestiwn yna mwy yn y flwyddyn gynta’ na thros y 13 blynedd i gyd ers hynny; sy’n beth da, dw i’n meddwl!

Dw i’n cael y teimlad bod yr iaith yn rhywbeth mae plant – a phawb yn gyffredinol – yn gweld fel rhywbeth pwysig a defnyddiol dyddiau yma. Ar ben dysgu iaith newydd, mae gymaint o sgiliau pwysig fatha datrys problemau, sgiliau cyfathrebu a sgiliau meddwl dwfn sy’n dod law yn llaw efo dysgu iaith. Mae Cymraeg yr un mor bwysig â phob pwnc ysgol arall, heb os.

Pa reswm fyddet ti’n ei roi i bobl dros ddysgu?

Dw i byth yn trio rhoi rheswm i neb. Does dim rhaid i ti ddysgu Cymraeg i fyw yng Nghymru. Ond i’r rhai sy’ isio bod yn rhan o rywbeth mor arbennig yn ein gwlad ni, mae lawr iddyn nhw ffeindio eu rheswm eu hunain.

Mae miliwn ac un o resymau i ddysgu Cymraeg, a ‘mond un sy’n ‘anghywir,’ sef yr un ddaru fi ddewis: ‘mod i ddim yn Gymro heb yr iaith. Dw i’n falch ddaru’r rheswm yna arwain fi at y nod o fod yn rhugl, ond ro’n i’n Gymro i’r carn heb yr iaith, ac mae’n rhaid i bobl gofio hynny. Er, mae dysgu Cymraeg yn bendant yn helpu i deimlo’n agosach at gymunedau a straeon Cymreig ein gwlad.

Beth all siaradwyr iaith gyntaf ei wneud i helpu pobl sy’n dysgu?

Siaradwch efo ni. Y broblem ydy, dydy siaradwyr iaith gynta’ erioed wedi cael hyfforddiant o sut i siarad efo dysgwyr. Dydyn nhw ddim yn gwybod pryd i arafu, pryd i gyfieithu darnau anodd, pryd a sut i annog.

Dw i wir ddim yn trio siarad lawr ar bobl mamiaith sy’n caru’r iaith gymaint â’r dysgwyr eu hunain, ond mae’r baich o gadw’r iaith yn fyw ar y siaradwyr iaith gynta’ gymaint ag ydy o ar y siaradwyr newydd. Rhaid i ni ddod at ein gilydd, rhaid i ni ymuno â grwpiau o ddysgwyr, rhaid i ni gynnig cymorth i ddysgwyr gymaint ag y gallwn ni.

Ffynhonnell y llun, Stephen Rule

Ti’n hoffi edrych ar darddiad a hanes yr iaith; pe baset ti’n cael mynd nôl i gyfnod arbennig yn hanes y Gymraeg, i ba gyfnod fyddet ti’n mynd?

Fyswn i naill ai yn licio mynd rownd y gwledydd Celtaidd efo Edward Lhuyd yn casglu’r ieithoedd Celtaidd i gyd am y tro cynta’, neu ‘sŵn i’n mynd ‘nôl i’r 13eg ganrif a ffeindio’r Dywysoges Gwenllïan ac esbonio iddi mai tywysoges Cymru ydy hi.

Ti hefyd yn angerddol am Sir y Fflint; alli di roi blas o’r dafodiaith neu eirfa Gymraeg leol?

Dene’r cwestiwn oddai’n aros amdano, n’aye. Blas bach ene i chi. Ma’ tafodieth Sir Fflint – dim Sir *y* Fflint rownd fam’e – mor ddiddorol. Yn anffodus, pan fydd pobl yn ei chlywet’i, ma’ nhw’n meddwl bo’ ni jyst yn ddysgwyr sy’ methu siarad yn iawn. Ond na, siaradwyr Sir Fflint balch iawn ‘den ni.

Ma’ ne lwyth o ymadroddion fathe ‘chware’r hen’ (= dweud y drefn) a ‘snapin’ (= byrbryd), sy’ bron ‘di marw allan erbyn hyn. ‘Den ni’n gor’o edrych ar ôl pethe fel ‘ne er mwyn cofio pwy yden ni.

‘Swn i’n licio gweld mwy o ffocws gyn y cyfrynge i’n tafodieth ni er mwyn i bobl erill y wlad w’bod bod ni yma a bod ni ishe rhannu a dathlu pwy yden ni… ac i ‘neud yn siŵr bo’ pobl yn gw’bo’ bo’ ni’n swnio fel hyn achos tafodieth ni a dim achos bo’ ni’n ddysgwyr i gyd.

Sbia, dio ddim yn gyfrinach bod tafodieth ni ‘di cael ei heffeithio lot gyn Sa’sneg, ond rhan o’n hanes ni ydy hyn’e, ac ma’n r’wbeth i ni ddathlu… dim r’wbeth i deimlo’n drist amdano!

Pryd mae’r Doctor yn rhoi ei waith i gadw a Stephen yn cael ymlacio?!

Prin iawn dw i’n medru cofio pwy ydy/oedd Stephen erbyn hyn. Dw i ‘mond yn ateb i ‘Doctor,’ ‘Syr’ (yn y gwaith), neu ‘Dadi’ dyddie yma! Pob dydd ar ôl dod adre’ o’r gwaith, dw i’n trio fy ngorau jyst i fod efo fy mab am gymaint o amser ag y galla’ i.

Wedyn, ar ôl iddo fynd i’w wely, dw i’n defnyddio’r egni prin sy’ gen i ar ôl i ymateb i bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, sgriptio syniadau am fideos newydd, addasu unrhyw fideos ddaru fi ffilmio ar y penwythnos, neu sgwennu pennod arall o ba bynnag llyfr sy’ gen i ‘on the go’ ar y pryd.

  • Gwrandewch ar Stephen yn siarad ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru.