Marathon: Cyfle i ddiolch am ofal Hari, Emrys a Noa

Cai a HariFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cai yn rhedeg marathon am y tro cyntaf i elusen MACS sydd wedi helpu'r teulu yn sgil cyflwr prin Hari

  • Cyhoeddwyd

Roedd y penwythnos hwn dair blynedd yn ôl yn un llawn hapusrwydd i Cai Newell Jones a'i bartner Glesni o Ddolgellau ond yn un pryderus hefyd wedi iddyn nhw sylwi bod rhywbeth o'i le ar lygad ei mab bach newydd anedig.

Ymhen rhai wythnosau fe gawson wybod fod gan Hari y cyflwr hynod o brin microphthalmia - cyflwr sy'n golygu bod ei lygad yn fach a ddim yn datbygu.

"'Dan ni'n meddwl bod e'n ddall yn ei lygad chwith ac roedd cael gwybod ei fod e'n gorfod byw â'r cyflwr hwn yn andros o sioc - dim ond ryw 114 y'n cael diagnosis bob blwyddyn ym Mhrydain," meddai Cai wrth siarad â Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alys, Glesni a Hari wedi teithio i Lundain i gefnogi Cai

"Dwi ddim wedi rhedeg marathon o'r blaen ond dwi am godi arian i elusen MACS (Microphthalmia, Anophthalmia & Coloboma Support) sydd yn cefnogi plant ac oedolion wedi eu geni heb lygaid neu gyda llygaid sydd heb ddatblygu yn iawn.

"Mae’r elusen yma wedi bod yn gysur ac yn gefnogol iawn i fi a’r teulu yn ystod cyfnod heriol iawn.

"Fe fydd Hari bach yn dathlu ei ben-blwydd yn dair oed ar y trên i Lundain - ond dwin falch y bydd o, Alys sy'n bedair a Glesni yna i fy nghefnogi."

'Yr arian i elusennau mor bwysig'

Mae Cai Newell Jones ymhlith 50,000 o redwyr fydd yn rhedeg y 26.2 milltir.

Mae disgwyl i'r digwyddiad eleni godi mwy o arian nag erioed i elusennau - y llynedd fe gyfrannodd y ras £63m i'r coffrau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arian sy'n cael ei godi gan ddigwyddiadau fel Marathon Llundain yn hynod o bwysig, medd Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr Latch

"Mae'r arian y mae marathons a digwyddiadau fel y Cardiff Half yn holl bwysig - yn enwedig i elusennau llai," medd Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr Latch - Elusen Canser Plant Cymru.

"Mae hanner incwm elusennau yn dod drwy ffyrdd cyhoeddus ac yn ystod cyfnod lle mae 'na sialensau economaidd mae cyfraniad y cyhoedd yn fwy pwysig nag erioed.

"Yn y cyfnod yma hefyd mae mwy o alw am ein gwasanaethau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Jones yn codi arian i elusen Dy Le Di

Fe deithiodd Bryn Jones o'r Bala i Lundain ddydd Iau.

Dyw e chwaith ddim wedi rhedeg marathon o'r blaen ond dywed ei fod yn gobeithio cwblhau'r ras mewn llai na phedair awr a hynny i ddiolch am y gofal arbennig mae ei fab awtistig, Emrys, yn ei dderbyn gan elusen Dy Le Di yn Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emrys wrth ei fodd yn cael mynd i Wrecsam i gael "cwrdd a chwarae â phlant tebyg iddo fo," meddai ei dad Bryn

"Fe gafodd Emrys, sydd bellach yn 12 oed, ddiagnosis dair blynedd yn ôl ac un o'r petha sydd wedi'i helpu'n fawr yw cael mynd yn achlysurol i glwb Dy Le Di," meddai Bryn.

"Mae'n hapus yno ac wrth ei fodd yn cael cwrdd a chwarae â phlant tebyg iddo fo.

"Mae clybiau fel hyn mor bwysig gan fod bywyd yn gallu bod yn heriol i blant awtistig - mae deall sefyllfa a chyfathrebu yn anodd weithiau.

"Dwi'n teimlo hefyd bod nhw yn fwy agored i gael eu heithrio yn gymdeithasol sy'n gallu arwain at salwch meddwl."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bydd teulu Bryn yn gwylio y ras o adref ddydd Sul

"Dwi'n edrych ymlaen. 'Nes i ddechrau rhedeg Park Run Y Bala ryw dair blynedd yn ôl gyda'r mab ieuengaf Gwynfor.

"Bydd rhedeg marathon yn dipyn fwy o her ond dwi'n 'neud o er mwyn Emrys ac elusen Dy Les di sydd wedi bod yn gymaint o gymorth i ni fel teulu."

Codi arian wedi 'gofal arbennig'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Noa Jones, 5, bellach yn well wedi iddo gael ffurf o gyflwr Kawasaki

Fe redodd Dafydd Rhydian Jones o Fethesda a'i dad-yng-nghyfraith Paul Owen farathon Manceinion y penwythnos diwethaf er mwyn codi ymwybyddiaeth a diolch am y gofal a gafodd Noa Jones, 5 oed, wedi salwch diweddar.

"Tachwedd 2023 o'dd hi ac fe gafodd Noa ryw salwch annisgwyl," meddai Rhydian. "Roedd bysedd ei draed a'i ddwylo wedi chwyddo, roedd ganddo lygaid bloodshot a thrwyn gwaed.

"Doedd dim tymheredd uchel ac ar y dechrau doedd neb yn gwybod be' oedd yn bod ac yna fe gafodd ddiagnosis o'r cyflwr incomplete Kawasaki - rhywbeth nad oedden ni erioed wedi clywed amdano.

"Fe wnes i a fy nhad-yng-nghyfraith feddwl y bydden ni'n rhedeg marathon Manceinion er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Noa yn ystod ei gyfnod yn Ysbyty Gwynedd

" Mae e'n gyflwr sy'n gadael ei ôl am gyfnod hir.

"Mae Noa lot yn well ond mae e'n blino lot mwy nag arfer ac mae'r cyflwr yn golygu ei fod wedi gorfod cymryd meddyginiaeth at y galon.

"Yn ffodus mae'r sgan olaf wedi dangos nad oes nam parhaol ond bydd e'n parhau i gael ei fonitro gan Ysbytai Gwynedd ac Alder Hey."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth y teulu cyfan i gefnogi dad a taid ym Manceinion

Dywed mam Noa, Hayley, ei bod yn hynod o falch bod y ddau wedi codi arian at elusen Awyr Las wedi'r gofal arbennig a gafodd Noa yn Ysbyty Gwynedd.

"Bydd yr arian," meddai, "yn gwella'r adnoddau chwarae yn Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd.

"Roedd yr adnoddau chwarae yn yr ysbyty yn dod â chymaint o fwynhad i Noa ac yn help mawr wrth geisio tynnu ei sylw oddi ar y boen ro'dd o'n ei deimlo yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty.

'Dan ni'n hynod o ddiolchgar i bob un sydd wedi cyfrannu."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Paul Owen a Rhydian Jones wedi iddyn nhw gwblhau Marathon Manceinion y penwythnos diwethaf

Fe orffennodd Rhydian, sy'n athro ymarfer corff ac yn rhedwr profiadol, y marathon mewn ychydig dros deirawr a'i dad-yng-nghyfraith, nad oedd wedi rhedeg marathon o'r blaen, mewn ychydig dros bedair awr.

"Ry'n ni'n falch iawn bo' ni wedi llwyddo i redeg er mwyn Noa bach" ychwanegodd Rhydian Jones.

"Bydd hi'n braf gwylio pobl eraill yn rhedeg y penwythnos hwn."