Gwasanaeth bws newydd yn 'bwysig' i gymunedau'r gorllewin
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth bws newydd wedi lansio’n swyddogol yn Sir Gaerfyrddin i fynd i’r afael â’r bwlch trafnidiaeth wledig.
Daw Bws Bach y Wlad mewn ymateb i derfynu gwasanaeth Bwcabus yn Hydref 2023 - gwasanaeth oedd yn cynnig trafnidiaeth i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, nod Bws Bach y Wlad yw gwella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd y sir.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn cydweithio â Hwb Bach y Wlad, sef canolfannau cymorth newydd gan y cyngor i gefnogi unigolion sy’n wynebu heriau amrywiol.
Gyda'r Bwcabus yn rhedeg ers 14 mlynedd, roedd rhai yn ne-orllewin Cymru’n dibynnu arno ac yn "gofidio’n ofnadwy" wrth glywed am y posibilrwydd o’i golli rhai blynyddoedd yn ôl.
Serch hynny, fe ddaeth y gwasanaeth i ben ddiwedd Hydref 2023.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd diffyg cyllid gan Lywodraeth y DU wedi Brexit yn golygu nad oedd hi’n bosib i barhau i ariannu’r gwasanaeth.
‘Mynd o bentref i bentref’
Llai na blwyddyn ers i’r gwasanaeth ddod i ben, gyda thrigolion a busnesau’n teimlo colled Bwcabus, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio gwasanaeth Bws Bach y Wlad.
Nod y gwasanaeth yw sicrhau hygyrchedd i holl aelodau’r gymuned, ynghyd â theithio rhatach a phrisiau gostyngol i bobl ifanc.
Y gobaith hefyd yw mynd i'r afael â'r heriau o ynysu a mynediad cyfyngedig i wasanaethau hanfodol, drwy feithrin cynhwysiant a chyfleoedd o fewn y cymunedau.
Yn "mynd o bentref i bentref", mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd o amgylch Pencader, Llandysul, Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn, ardaloedd mae’r cyngor yn cydnabod sydd wedi profi lleihad yn y gwasanaethau.
Un sydd eisoes yn manteisio ar wasanaeth Bws Bach y Wlad yw Ann Phillips, 74 o Bencader. Roedd hi’n arfer defnyddio’r Bwcabus yn achlysurol.
“Ni gyd yn mynd yn genhedlaeth hŷn yng nghefn gwlad a dyw rhai pobl ddim yn gallu dreifio o gwbl. Mae e yn bwysig bod yna wasanaeth ar ein cyfer ni.
“Mae llawer ohonon ni wedi dweud bod rhaid i ni ddefnyddio fe’n fwy aml, er mwyn cadw fe.
"Ma’ grŵp bach cerdded gyda ni ar ddydd Iau a byddwn ni yn defnyddio hwn nawr i fynd i lefydd. Cerdded a dod yn ôl ar y bws.”
Ychwanegodd Barbara Cobain, 69, oedd yn teithio o Bencader i Gastellnewydd Emlyn ar y bws, ei fod yn rhatach na gyrru wrth ddefnyddio ei phas bws am ddim.
“Mae Sir Gaerfyrddin wedi gwneud yn arbennig o dda i gadw’r service i fynd.
"Mae lot o bobl yn defnyddio lot o fe, mynd i’r doctor yn Llandysul, mae e’n dda iawn bod y bws yn mynd eto nawr… mae’n bwysig i’r bobl yn y community.”
Cynllun peilot naw mis
Mi fydd y cynllun peilot yn rhedeg am naw mis, bum niwrnod yr wythnos, wedi cyllid gan Gronfa Ffyniant Bro y DU.
Yn ôl un o yrwyr Bws Bach y Wlad, Mike Morgan, mae’n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn parhau wedi hynny, er lles trigolion lleol.
“Mae e’n rhyddhad mawr iddyn nhw, ma’ nhw’n cael eu tynnu mas o’r tŷ nawr yn lle bo nhw’n sownd.
"Mae e’n fendith bod rhywbeth i ga’l i helpu nhw ddod i siopa a mynd i appointments.”
Mae’r cyngor sir yn dweud bod eu hymrwymiad i "lesiant a ffyniant pobl sy’n byw yng nghefn gwlad" hefyd yn amlwg drwy lansiad eu hail fenter, sef Hwb Bach y Wlad.
Yn ganolfannau cymorth, gall pobl dderbyn gwybodaeth hanfodol megis cyngor ar gostau byw, a hynny mewn 10 tref ar draws y sir.
Gall y timau yno hefyd gynorthwyo gydag ymholiadau am faterion megis budd-daliadau, gwastraff ac ailgylchu a materion tai.
Bydd mentrau Bws Bach y Wlad ynghyd â Hwb Bach y Wlad yn galluogi bod pob unigolyn yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn cael mynediad at adnoddau a chymorth hanfodol, yn ôl y cyngor.
Dywedodd Melanie Bowen, Rheolwr Hwb Bach y Wlad mai ei bwrpas yw "helpu cwsmeriaid gyda gwasanaeth y cyngor".
Dywedodd fod pobl cefn gwlad wedi "teimlo bach yn isolated gan fod transport wedi stopo" ond gyda'r cynllun yma mewn lle, "maen nhw'n gallu dod a chael yr help a'r gefnogaeth wrthom ni".
Yn ôl Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Darren Price, fe fyddan nhw'n asesu defnydd y gwasanaeth cyn gwneud penderfyniadau pellach ar ei ddyfodol.
Er gwaetha'r ffaith fod arian yn dynn, dywedodd ei fod yn "ffyddiog iawn y byddwn ni'n ffeindio ffordd o ariannu".
Aeth ymlaen i ddweud bod y cyngor wedi "datgan yn glir" eu gobaith o ddatblygu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023