Dyn wedi marw mewn tân mewn tŷ yng Nghaernarfon

Arwydd Lôn y Bryn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Lôn y Bryn am tua 16:00 ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaernarfon dros y penwythnos.

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw i ddigwyddiad ar Lôn y Bryn am tua 16:00 ddydd Sadwrn, 16 Awst.

Cafodd y dyn ei ganfod yn farw yn yr adeilad.

Nid yw wedi ei adnabod yn ffurfiol, ond mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân bod criwiau o Gaernarfon, Bangor, Llanberis a Chaergybi wedi eu hanfon i'r digwyddiad.

Map Caernarfon

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Burrow o Heddlu Gogledd Cymru bod teulu'r dyn yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.

"Mae ymchwiliad ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dechrau i ganfod achos y tân, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad gysylltu gyda'r heddlu os nad ydynt wedi gwneud yn barod, gan ddyfynnu C127317."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig