Teyrnged teulu i 'enaid prydferth' a fu farw yn Florida
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch o Gaerdydd fu farw ar wyliau yn yr Unol Daleithiau wedi rhoi teyrnged i "enaid prydferth".
Cafodd Anna Beaumont, 13, ei chanfod yn anymwybodol mewn pwll ym mharc dŵr Discovery Cove yn Orlando, Florida ddydd Mawrth diwethaf.
Er iddi gael cymorth meddygol a’i chludo i’r ysbyty, roedd mewn cyflwr difrifol a bu farw’r diwrnod canlynol.
Fe wnaeth Ysgol Gyfun Radur, lle roedd Anna yn ddisgybl, hefyd roi teyrnged i “aelod gwerthfawr o deulu’r ysgol”.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod nhw wedi bod mewn cyswllt gyda’r teulu i gynnig cefnogaeth yn dilyn y digwyddiad.
'Wedi ein chwalu o’i cholli hi'
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd ei theulu: “Roedd Anna yn enaid prydferth sydd wedi ei chymryd oddi wrthym mewn damwain drasig.
“Rydym wedi ein chwalu o’i cholli hi, ond fydd hi fyth yn cael ei hanghofio.
“Hoffwn ddiolch i dimau’r gwasanaethau brys a staff yr ysbyty yn Orlando a geisiodd mor galed i achub bywyd Anna.
“Fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw sylw pellach ac rydym yn gofyn am breifatrwydd yn y cyfnod hynod o anodd hwn.”
Mae Discovery Cove, y parc lle’r oedd Anna gyda’i theulu, yn disgrifio’u hunain fel cyrchfan gwyliau dydd lle mae ymwelwyr yn gallu gwneud gweithgareddau fel nofio efo dolffiniaid a physgod trofannol.
Mewn datganiad byr i gyfryngau lleol yn Florida, dywedodd y cwmni bod eu staff “wedi ymateb i argyfwng” ar 28 Mai ac wedi cysylltu gyda’r gwasanaethau brys.
“Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, fe wnaethon nhw gymryd cyfrifoldeb dros y gofal a chludo’r ymwelydd i ysbyty cyfagos,” meddai.
“Allan o barch i breifatrwydd ein gwesteion, dydyn ni ddim yn darparu gwybodaeth iechyd. Mae ein meddyliau gyda’r teulu.”
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
Wrth roi teyrnged, dywedodd Bethan Simmonds o Ysbyty Arch Noa fod Anna wedi codi dros £1,000 i'r elusen yn ystod Covid, gan godi'r arian drwy her reidio beic.
"Mae pobl sydd yn codi arian i elusen yn arbennig ond mae 'na rywbeth arbennig iawn am blentyn sydd yn defnyddio eu profiad eu hunain o fod yn glaf yn yr ysbyty i helpu eraill."
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "amlwg bod Anna yn berson ysbrydoledig iawn, does dim byd mwy torcalonnus na cholli plentyn".
"Mae'n meddyliau ni gyd a'n calonnau gyda theulu Anna."
Fe wnaeth Swyddfa Siryf Orange County gadarnhau’n ddiweddarach bod Anna Beaumont wedi marw’r diwrnod canlynol yn yr ysbyty.
“Bydd angen i unrhyw wybodaeth am achos a natur y farwolaeth ddod gan Swyddfa’r Archwilydd Meddygol.”
Dros y penwythnos fe wnaeth pennaeth Ysgol Radur, Andrew Williams ddweud bod yr ysgol gyfan yn meddwl am deulu Anna wrth iddyn nhw geisio dod i delerau gyda’u colled.
“Roedd Anna yn aelod gwerthfawr o deulu’r ysgol, a bydd ei cholled yn cael ei deimlo'n fawr gan ddisgyblion, staff a phawb gafodd y fraint o'i hadnabod,” meddai.
“Fe wnaeth ei hysbryd a'i charedigrwydd gyffwrdd cymaint o fywydau.”
Cafwyd teyrnged iddi hefyd gan Glwb Rhwyfo Llandaf, lle oedd Anna'n aelod ieuenctid.