Cyhuddo Llafur o 'anwybyddu' aelodau Cymreig

Torsten BellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prif Weithredwr y Resolution Foundation, Torsten Bell sydd wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd Gorllewin Abertawe.

  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau Llafur mewn un etholaeth Gymreig yn cyhuddo’u plaid o’u hanwybyddu a gorfodi ymgeisydd “o’r tu allan" ar etholaeth Gymreig.

Ddydd Gwener, cadarnhaodd Llafur mai Torsten Bell, Prif Weithredwr y Resolution Foundation, fydd ei hymgeisydd ar gyfer sedd Gorllewin Abertawe.

Dywedodd un aelod lleol wrth BBC Cymru y byddai’n “ystyried ei aelodaeth” yn sgil y penderfyniad, ac mae eraill yn dweud y bydd y penderfyniad yn cael effaith ar yr ymgyrch.

Ond dywedodd Llafur Cymru fod y penderfyniad wedi’i wneud gan banel “a ffurfiwyd gan gynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Llafur Cymru ac aelodau lleol".

Aeoldau lleol yn 'siomedig'

Cafodd cyn Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe, Geraint Davies, ei wahardd rhag sefyll yn yr etholaeth y tro hwn gan fod ymchwiliad yn parhau i’w ymddygiad.

Torsten Bell yw Prif Weithredwr y felin drafod economaidd y Resolution Foundation, a chyn hynny roedd yn ymgynghorydd arbennig i Alistair Darling tra oedd yn Ganghellor Llafur.

Dywedodd Mr Bell ei fod yn “edrych ymlaen at fod yn ymgeisydd Llafur Cymru dros Orllewin Abertawe ac i fod yn ymgyrchu dros y Blaid Lafur ar ei newydd wedd gyda Keir Starmer".

Ond mae aelodau lleol Gorllewin Abertawe wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn “ddig” ac yn “siomedig” â'r penderfyniad.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU/PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe, Geraint Davies, wedi cael ei wahardd rhag sefyll

Dywedodd un aelod lleol ei fod bellach yn "cwestiynu fy aelodaeth o'r blaid. Rwy'n gandryll".

"Mae'r blaid yn anwybyddu yr aelodaeth graidd.

"Mae gyda ni ddarpar ymgeiswyr da iawn sy'n byw ac yn gweithio yma yn Abertawe, sydd wedi gyrru Abertawe drwy gyfnod anodd dros ben yn y 14 mlynedd diwethaf.

"Mae gweld y blaid yn parasiwtio rhywun i mewn yn fy ngwneud i’n flin dros ben."

Dywedodd aelod lleol arall o’r blaid wrth BBC Cymru ei fod yn “siomedig nad yw’r ymgeisydd wedi’i ddewis gan Banel [Plaid Lafur yr Etholaeth] yng Ngorllewin Abertawe ac nad oes ganddo unrhyw gysylltiad hysbys ag Abertawe.

"Mae’n ymgeisydd sydd wedi dod o’r tu allan, a byddai’n well pe bai gyda ni rywun sy’n adnabod Abertawe ac sy’n gwybod beth sydd ei angen ar Abertawe.”

Effaith ar yr ymgyrch leol?

Rhybuddiodd aelod arall y gallai’r penderfyniad gael effaith ar ymgyrchu gan aelodau lleol, mewn etholaeth sy'n cael ei hystyried yn sedd Lafur diogel.

“Bydd rhywun o'r tu allan sy'n cael ei barasiwtio i mewn yn gwneud pobl yn ddig iawn.

"Mewn ardal fel hon, mae cysylltiadau lleol yn bwysig iawn. Ni yw aelodau lleol y blaid a dydyn ni ddim yn cael unrhyw lais wrth ddewis ein Haelod Seneddol.”

Dywedodd un arall bod hi'n ymddangos “nad yw Llafur Prydain yn poeni am yr hyn r’yn ni [aelodau lleol] yn ei feddwl.”

Roedd y cyn-Aelod Seneddol, Geraint Davies, wedi cynrychioli’r sedd ers 14 mlynedd, gan ennill gyda mwyafrif o 8,116 yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Ond mae Mr Davies wedi’i wahardd rhag sefyll yn yr etholiad hwn gan ei fod wedi’i wahardd o’r blaid, yn dilyn cyhuddiadau o “ymddygiad cwbl annerbyniol".

Dywed Mr Davies nad yw'n cydnabod yr honiadau yn ei erbyn ac mae wedi beirniadu'r Blaid Lafur am yr amser mae hi wedi cymryd i ymchwilio i'r achos.

Wrth bostio ar X, dywedodd Mr Davies ei fod “wedi cael fy atal flwyddyn yn ôl, yn dilyn honiadau dienw a bostiwyd ar y cyfryngau".

"Rwy’n siomedig nad wyf eto wedi cael gwrandawiad gan y Blaid Lafur a’r cyfle i glirio fy enw.”

Ymgeisydd gyda 'chyfoeth o brofiad'

Mae Llafur hefyd wedi cyhoeddi mai pennaeth materion cyfreithiol y Blaid Lafur Prydeinig, Alex Barros-Curtis, fydd eu hymgeisydd ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd , ar ôl i’r cyn-AS Kevin Brennan gyhoeddi y byddai’n rhoi’r gorau iddi yn yr etholiad hwn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod yn "falch iawn o gyhoeddi'r ddau ymgeisydd gwych” ac y byddan nhw’n "gynrychiolwyr rhagorol” dros eu hetholaethau.

“Rydym yn falch, er gwaethaf y broses gyflym, i’r paneli gael eu ffurfio gan gynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Cymru ac aelodau lleol.

“Mae Torsten yn dod â chyfoeth o brofiad ym maes polisi economaidd a mynd i’r afael â thlodi plant.

"Fe fydd yn bencampwr go iawn i Orllewin Abertawe.

“Mae gan Alex brofiad cyfreithiol helaeth ac mae’n ymgyrchydd dros faterion cyfiawnder cymdeithasol.”

Y rhestr o ymgeiswyr sydd wedi'u datgan ar gyfer etholaeth Gorllewin Abertawe yw:

Llafur - Torsten Bell

Ceidwadwr - Tara-Jane Sutcliffe

Plaid Cymru - Gwyn Williams

Democratiaid Rhyddfrydol - Mike O’Carroll

Reform - Patrick Benham-Crosswell

Y Blaid Werdd - Peter Jones

Y rhestr o ymgeiswyr sydd wedi datgan ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd yw:

Llafur - Alex Barros-Curtis

Ceidwadwr — James Roberts Hamblin

Plaid Cymru - Kiera Marshall

Democratiaid Rhyddfrydol - I'w gadarnhau

Reform - Peter Hopkins

Y Blaid Werdd - Jess Ry

Plaid Gweithwyr Prydain - Akil Kata

Pynciau cysylltiedig