Rhybudd melyn am stormydd o daranau yng Nghymru

Rhybudd melyn yng NghymruFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn eu rhybudd melyn yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn eu rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yng Nghymru.

Roedd y rhybudd gwreiddiol yn berthnasol i Wrecsam a'r de ddwyrain yn unig ond bellach mae'r rhybudd yn ymestyn ar draws y gogledd a'r canolbarth hefyd.

Mae'r rhybudd mewn grym tan 23:59 nos Lun, ac mae disgwyl cawodydd trymion yn y cyfnod hwn gyda rhwng 30-40mm o law, yn codi i 60-80mm mewn rhai mannau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol hefyd wedi gosod wyth rhybudd llifogydd yn nalgylch Dyfi, Leri, Glaslyn a Dwyryd, Môn, ac o gwmpas yr afonydd Llwchwr ac Aman, Gwendraeth, Llanelli ac ar hyd y Gwŷr.

Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol ar gyfer Cymru gyfan.

Pynciau cysylltiedig