Arestio dyn ar ôl i seiclwr ddioddef anafiadau difrifol

Cafodd y seiclwr ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr wedi'r gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i seiclwr ddioddef anafiadau difrifol allai beryglu bywyd yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i wrthdrawiad rhwng fan a seiclwr ar yr A40 ger Llanddewi Efelffre am tua 08:10 fore Gwener.
Cafodd y seiclwr ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus a gyrru cerbyd anaddas. Mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y llu y bydd y ffordd ar gau am beth amser wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.