Dros 500 o ymatebion i arolwg toiledau Machynlleth

Toiledau machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Kim Bryan fod llawer o waith adnewyddu ar y toiledau

  • Cyhoeddwyd

Mae arolwg ynglŷn â cheisio ailagor toiledau cyhoeddus Machynlleth wedi derbyn dros 500 o ymatebion o fewn ychydig ddyddiau o gael ei gyhoeddi.

Fe gafodd y toiledau cyhoeddus eu cau fis Ionawr 2023 yn sgil y gost uchel o'u cynnal a'u cadw, a'r ffaith eu bod yn cael eu fandaleiddio yn gyson.

Ond mae rhai o fusnesau'r dref yn poeni a gallai'r diffyg cyfleusterau arwain at lai o ymwelwyr.

Erbyn hyn mae Cyngor Tref Machynlleth wedi sefydlu grŵp gweithredu sy'n gobeithio derbyn cyllid er mwyn ailagor y toiledau yn fuan.

Er mai Cyngor Powys sy'n berchen ar adeilad y toiledau, maen nhw wedi deud wrth y grŵp y bydden nhw'n trosglwyddo perchnogaeth yr adeilad i'r cyngor tref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Kim Bryan yn "gobeithio'n fawr allwn ni gael cyllid, cychwyn y gwaith a gweld y toiledau yn cael eu hailagor".

Dywedodd y Cynghorydd Kim Bryan o Gyngor Tref Machynlleth fod cau'r toiledau cyhoeddus wedi bod yn "broblem barhaus i fusnesau, ymwelwyr a phobl leol".

Mae'r Cynghorydd Bryan yn aelod blaenllaw o'r grŵp sy'n ceisio am gyllid i ail agor y toiledau.

Dywedodd fod y grŵp yn "gweithio'n galed i gael cyllid er mwyn adnewyddu'r toiledau ac i ychwanegu paneli solar er mwyn lleihau cost egni".

Ychwanegodd eu bod wedi gwneud yr arolwg er mwyn casglu barn y gymuned am y sefyllfa.

Pum diwrnod wedi i'r adolygiad gael ei lansio, mae 520 o ymatebion wedi dod i law.

Bydd yr adolygiad yn cau ar 17 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan ei bod yn "gobeithio'n fawr allwn ni gael cyllid, cychwyn y gwaith a gweld y toiledau yn cael eu hailagor".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Griffith yn poeni am yr effaith ar fusnesau lleol

Yn ôl Llinos Griffith, sy'n gynghorydd tref ac yn aelod o'r grŵp gweithredu, mae'n bosib bod busnesau'r dref ar eu colled oherwydd y diffyg toiledau.

"Ma' lot o bobl yn siarad gyda fi fel cynghorydd am y ffaith bod y toiledau ar gau," meddai.

"Falle bod y dref yn colli pobl busnes achos os yw pobl yn pasio trwy a dim toiledau ar agor, falle bo' nhw'n dewis mynd i rywle arall.

"Dwi wedi clywed hynny gan ambell un, bod pobl ddim yn stopio 'ma, a bo' nhw'n mynd i rywle arall.

"Mae o'n ofid i lot o fusnesau ac i'r dref hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleanor Hennighan yn poeni fod y diffyg toiledau yn "hel pobl o Mach"

Dywedodd Eleanor Hennighan, perchennog siop sglodion yn y dref, fod y cyngor sir yn "hel pobl o Mach".

"Ma' fe yn broblem fawr... Ma' pobl yn talu £2 i barcio car, a dim toiled yno, felly ma' nhw'n rhedeg rownd y gornel i'r siop chips a just yn defnyddio'r toiled heb ofyn na dim byd, ond allwn ni ddim rhoi bai ar y bobl.

"Mae mwy o giw am y toiled na sydd 'na am takeaway weithiau!

"Ma' pobl yn pasio trwy Machynlleth, yn mynd i Aberdyfi, yn mynd i Aberystwyth neu Borth - dim pentref ydyn ni, ancient capital of Wales ma' fe'n dweud ar y ffordd mewn i'r dref, a ry'n ni heb doiled, ma' fe'n drueni."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Powys nad yw gweithredu ar y toiledau cyhoeddus yn "swyddogaeth statudol" gan y cyngor a'u bod wedi penderfynu "rhai blynyddoedd yn ôl i beidio â gweithredu'r toiledau cyhoeddus er mwyn gwarchod prif swyddogaethau statudol y cyngor".

"Nid oedd hwn yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn", meddai'r cyngor sir, gan ychwanegu ei fod wedi cael ei wneud "o ystyried pwysau ariannol meysydd eraill fel gofal cymdeithasol ac addysg".

Mae'r cyngor sir wedi "darparu gwybodaeth i'w helpu [y cyngor tref] i wneud cais am arian grant posibl ac ymchwilio iddo er mwyn helpu i gynnal y toiledau".

Dywed Cyngor Powys: "Yn anffodus, fe wnaeth Cyngor Tref Machynlleth benderfynu eu bod yn peidio gweithredu'r toiledau mwyach, ac maen nhw wedi bod ynghau ers hynny."

Pynciau cysylltiedig