Jeremy Miles yn cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf

- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Senedd flwyddyn nesaf.
Mae'r AS dros Gastell Nedd, aeth ben-ben â Vaughan Gething i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yn 2024, wedi ysgrifennu at ei blaid leol ac at Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, i gyhoeddi ei benderfyniad.
Dywedodd ei fod wedi "cael cyfle i fyfyrio dros wyliau'r haf ac rwyf wedi penderfynu mai diwedd tymor y Senedd hwn yw'r amser cywir i mi gamu o'r neilltu".
Fe ychwanegodd ei fod yn gwerthfawrogi'r ffaith i'r Prif Weinidog ymddiried ynddo drwy ei benodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2024.
Mae'n "amser i chwilio am her newydd a gwahanol" meddai "un sy'n caniatáu i mi gael cydbwysedd gwell rhwng gwaith a'r rhai yn fy mywyd rwy'n eu caru".
"Byddaf yn parhau i ymroi bob dydd sydd ar ôl gen i yn y swydd i ychwanegu at y cynnydd rydym eisoes wedi'i weld o ran lleihau rhestrau aros a gwella gwasanaethau iechyd a gofal."
Mae Mr Miles wedi gwasanaethu mewn sawl swydd amlwg yn y Llywodraeth, gan gynnwys bod yn Ysgrifennydd Addysg, Ysgrifennydd yr Economi ac Ynni a Chwnsler Cyffredinol.
Cyfraniad 'cwbl nodedig'
Mr Miles yw'r 14eg, ac o bosib yr un â'r proffil uchaf, o Aelodau Senedd Llafur Cymru i gyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll yn etholiad mis Mai.
Yn ei lythyr at Eluned Morgan, fe ddywedodd Mr Miles: "Fel y gwyddoch, mae bod mewn gwleidyddiaeth rheng flaen yn rhywbeth sy'n cymryd drosodd eich bywyd yn llwyr ac yn cael blaenoriaeth dros gymaint o bethau eraill.
"Mae'r pwysau'n real ac yn parhau am gyfnod hir," ychwanegodd.
Mynegodd ei gefnogaeth i'r Prif Weinidog gan ddweud: "Does na'm byd tebyg i'ch egni a'ch agwedd bederfynol yn ein Senedd.
"Chi yw'r grym sy'n canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru ac mi fyddaf yn parhau i'ch cefnogi'n llawn yn ystod gweddill fy amser yn y llywodraeth a thu hwnt."
Fe ddaw ei gyhoeddiad yn ystod wythnos heriol i Lafur Cymru - wrth i arolwg barn arall awgrymu bod cefnogaeth i'r blaid ar ei hisaf erioed.
Mae'r blaid hefyd yn wynebu cyfnod anodd wedi marwolaeth Hefin David AS ym mis Awst.
Yn ei hymateb i'r llythyr mae'r Prif Weinidog yn canmol cyflawniadau gwleidyddol Mr Miles, gan ddweud bod "yr hyn a wnaeth ar ran pobl Castell-nedd a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl nodedig".
Ychwanegodd: "Rydych chi hefyd wedi bod yn fodel rôl LHDT pwysig, fel y dyn hoyw agored cyntaf i sefyll i gael ei ethol fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru.
"Fel rydych chi wedi'i ddweud nifer o weithiau dros y blynyddoedd, weithiau bod yn chi eich hun yw'r peth mwyaf pwerus y gallwch chi ei wneud i eraill."
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2024
Cafodd Jeremy Miles ei eni yn 1971 a chafodd ei fagu ym Mhontarddulais.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ystalyfera yng Nghwm Tawe yn ystod yr 80au - ochr yn ochr â llawer o blant yr oedd eu tadau'n rhan o streic y glowyr - cyn mynd ymlaen i Brifysgol Rhydychen.
Ar ôl graddio yn y gyfraith, bu Mr Miles yn dysgu ym Mhrifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl.
Yna, bu'n gyfreithiwr yn Llundain a chafodd swyddi uwch yn ITV a chwmni teledu yn yr Unol Daleithiau, NBC Universal.
Fe gafodd Mr Miles ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2016.
Yn 2024, fe safodd i fod yn olynydd i Mark Drakeford gan ddod yn ail i Vaughan Gething gyda 48.3% o'r bleidlais, o'i gymharu â 51.7% Mr Gething.
Fe arweiniodd y ras at raniadau dwfn yn y blaid ar ôl i Mr Gething dderbyn rhoddion dadleuol i'w ymgyrch.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.