Cyfaddef tyfu £2m o ganabis mewn hen ysgol yn Llandysul

CanabisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwerth yr holl blanhigion ar y safle yn tua £1,960,000

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi pledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â chyffuriau, ar ôl i gwerth £2m o ganabis gael ei ddarganfod mewn hen ysgol yn Llandysul.

Cafodd y ddau eu harestio ddydd Gwener ar ôl i bum cês llawn canabis gael eu darganfod mewn car a gafodd ei stopio gan swyddogion wrth deithio drwy Sir Gaerfyrddin.

Daeth i'r amlwg fod y ddau wedi teithio o Lundain i Geredigion, lle'r oedden nhw wedi stopio am gyfnod byr cyn symud yn eu blaenau.

Arweiniodd ymholiadau'r heddlu at archwilio hen ysgol yng nghanol Llandysul, lle cafodd tua 1,500 o blanhigion canabis eu darganfod.

Y gred yw bod gwerth yr holl blanhigion yn tua £1,960,000.

Cafodd Alfred Perkola, 43 oed o Lundain, ac Adli Gjegjaj, 25 oed o Salford, eu cyhuddo o fod â rhan mewn ymdrech i gynhyrchu canabis, tra bod Perkola hefyd wedi ei gyhuddo o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u gwerthu.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o gamerâu cylch cyfyng wedi eu gosod o amgylch yr adeilad

Fe blediodd y ddau yn euog mewn gwrandawiad llys ddydd Sadwrn.

Dywedodd yr uwch arolygydd Richard Lewis o Heddlu Dyfed-Powys: "Roedd hwn yn ymdrech wych gan ein swyddogion, ac yn enghraifft arbennig o gydweithio rhwng gwahanol adrannau o fewn yr heddlu.

"Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud yr ardal hon yn un sydd ddim yn goddef rhai sy'n gwerthu cyffuriau anghyfreithlon, ac mae ein gwaith dros y penwythnos yn golygu bod swm sylweddol o ganabis wedi cael ei dynnu o'n cymunedau.

"Roedd cryfder y dystiolaeth yn erbyn y ddau yn golygu eu bod wedi pledio'n euog yn eithaf sydyn, ac ry'n ni nawr yn gallu edrych ymlaen at y dedfrydu."