Rhybudd melyn am stormydd i Gymru ddydd Iau

Map yn dangos y rhybudd melyn Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhybudd melyn mewn grym tan 22:59 nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau i rannau o ogledd, canolbarth a de Cymru.

Daeth y rhybudd i rym am 01:00 fore Iau a bydd yn dod i ben am 22:59 nos Iau.

Mae disgwyl cawodydd trymion ar draws rhannau o Gymru gyda rhwng 25-50mm o law yn bosib mewn rhai mannau.

Mae disgwyl y bydd y storm yn datblygu brynhawn Iau mewn rhannau o dde Cymru ac mae rhybudd am wyntoedd cryfion a llifogydd.

Fe all y tywydd garw arwain at golli cyflenwadau trydan a thrafferthion ar y ffyrdd.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru oni bai am Ynys Môn a Sir Benfro.

Pynciau cysylltiedig