Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi 'ffrwgwd'

Digwyddiad CasnewyddFfynhonnell y llun, Sammy Nas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Caerllion tua 19:00 nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd nos Sul.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i "ffrwgwd rhwng dau ddyn" ar Heol Caerllion tua 19:00.

Fe gafodd y ddau ddyn eu cymryd i'r ysbyty, cyn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach.

Dywedodd yr heddlu bod dau ddyn lleol wedi cael eu harestio - un 42 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac un 33 oed ar amheuaeth o achosi cythrwfl (affray).

Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Ellen Joslyn: "Rydyn ni'n deall y gallai gweld nifer fawr o swyddogion yn yr ardal achosi pryder, ond dydyn ni ddim yn credu bod unrhyw fygythiad i'r cyhoedd."

Mae unrhyw dystion yn cael eu hannog i gysylltu â'r heddlu.

Pynciau cysylltiedig