'Dim digon o hyfforddiant i ddelio â dylanwadwyr ar-lein'
- Cyhoeddwyd
Nid oes gan athrawon yr hyfforddiant na’r adnoddau i ddelio gyda dylanwadau ar wefannau cymdeithasol sy'n niweidiol i blant a bechgyn yn eu harddegau yn benodol.
Mae'r sefyllfa yn "frawychus", yn ôl un ysgol yn y de sydd wedi sefydlu pwyllgor staff ar ôl sylwi bod rhai disgyblion yn defnyddio iaith mysogonystaidd, ar ôl gweld dylanwadwyr ar y we yn trafod merched mewn modd dirmygus.
Adleisio’r galwadau hynny mae'r Comisiynydd Plant.
Dywed Llywodraeth Cymru fod diogelwch ar-lein yn rhan o’r cwricwlwm newydd a bod rhai adnoddau ar gael i athrawon, disgyblion a rhieni i'w haddysgu am sut i ddelio â dylanwadau niweidiol fel casineb at ferched ar-lein.
“Odd e mor frawychus, jyst y ffaith o'dd dysgwyr yn meddwl am fenywod mewn ffordd negyddol," meddai Jenna Rolls-Jones, athrawes sy'n rhan o'r pwyllgor.
"Doedden nhw ddim yn sylweddoli, maen nhw mor ifanc a dy’n nhw ddim yn sylweddoli ar yr iaith ma' nhw’n ei defnyddio.”
Yn ôl yr athrawon, un gair sydd wedi cael ei ddefnyddio gan rai yw 'Sigma' - term dirmygus, mae'n debyg, sy’n awgrymu bod dynion yn well na merched.
“Ni heb lot o gyngor o ran sut i herio’r iaith yma. Felly fe nethon ni sefydlu’r pwyllgor 'ma i ddeall sut i ymateb iddo fe," meddai.
“Dyna pam ni 'di gorfod cymryd e ar ein hunain i chwilio am y wybodaeth yma a throi at google i addysgu ein hunain a dysgu sut i ddelio â fe a sut i addysgu dysgyblion.
“Ni dal i weld elfennau o mysogony yn dod mas gyda phlant 11 i 13 oed - dysgwyr eithaf ifanc... maen nhw’n dechrau defnyddio'r iaith negyddol yna tuag at fenywod a ddim yn sylweddoli bod nhw’n neud e.”
Mae staff yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn dweud bod diffyg hyfforddiant ac arweiniad i ddelio gyda'r broblem.
“O ran y gefnogaeth, o lefel llywodraeth a’r byd addysg does 'na ddim digon o adnoddau yn cael eu rhannu gydag ysgolion i ni fedru taclo problemau sy’n dod o wefannau cymdeithasol.
"Bach iawn o gyfathrebu neu unrhyw fath o hyfforddiant sydd i athrawon," meddai Owain Tudur, Arweinydd Bugeiliol Ysgol Llangynwyd.
“Yn sicr byse arweiniad pellach i gael dealltwriaeth gadarn o’r hyn sy’n digwydd ar-lein i’w groesawu fel bo' ni’n gallu ei adlewyrchu yn yr ysgol.
“Ma' gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ysgolion i addysgu am faterion cymdeithasol, a bydde mwy o arweiniad i helpu newid meddylfryd ar blatfformau cymdeithasol yn helpu. Ond eto, ni’n neud ein rhan ni o ddydd i ddydd i daclo’r broblem yma."
Wrth siarad gyda rhai bechgyn ifanc yn yr ysgol, roedd gweld cynnwys dirmygus tuag ferched yn rhywbeth oedden nhw’n ei weld yn gyson, gan gyfeirio yn benodol at ddylanwadwyr fel Andrew Tate.
Fe bwysleisiodd y disgyblion bwysigrwydd trafod y pwnc yn yr ysgol a phwysigrwydd deall nad oedd ieithwedd o’r math yn dderbyniol mewn cymdeithas.
Yn ddiweddar fe wnaeth pennaeth MI5 rybuddio fod pobl o dan 18 sy’n cael eu denu a’u cyflyru gan weithgarwch terfysgaeth ar-lein wedi treblu yn y tair blynedd ddiwethaf.
Adleisio’r galwadau am hyfforddiant mae swyddfa y Comisiynydd Plant.
“Mae angen i’r llywodraeth wneud yn siŵr fod gan athrawon ac ysgolion yr arfau sydd eu hangen i allu trafod y materion yma - materion sydd yn aml iawn yn symud yn gyflym," meddai Lewis Lloyd, o Swyddfa'r Comisiynydd Plant.
“Beth sydd angen i ni gael ar draws Cymru yw cysondeb. Be' ni ddim mo'yn yw rhai pant mewn un rhan o Gymru yn cael profiad da, ac mewn ardal arall ddim yn cael profiad cystal."
Yn ôl un heddwas yn y gymuned mae’n broblem sy’n codi’n aml.
“Ni'n neud lot o waith ar hwnna yn bendant. Ma pawb yn gweld dylanwadau wrth fod ar social media. Ni’n gweld e’n aml.
"[Mae angen] trafod y pethe 'ma yn y dosbarthiadau fel bod plant yn teimlo bo' nhw’n gallu sôn amdano fe," medd PC Catherine Thomas.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n "hollbwysig cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein ac mae hynny yn rhan allweddol o'r cwricwlwm newydd".
"Mae adnoddau ar gael i athrawon, disgyblion a rhieni ar sut i ddelio â dylanwadau niweidiol fel mysogony ar-lein," medd llefarydd.