Ffrae am ffenest 'enfawr, erchyll' tŷ gwyliau yng Ngwynedd

Llun o'r ffenest enfawrFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai'n dweud bod y ffenest yn "enfawr" ac yn "erchyll"

  • Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer adeilad gafodd ei droi'n dŷ gwyliau heb sêl bendith swyddogion.

Mae cynghorydd lleol yn dweud bod datblygwr y tŷ ym Mhenisaruwaun ger Caernarfon wedi dangos "diffyg parch" at y broses gynllunio.

Roedd ymateb chwyrn yn lleol i'r adeilad, gyda rhai'n dweud bod y ffenest yn "enfawr" ac yn "erchyll".

Ym mis Ionawr, roedd swyddogion cynllunio wedi caniatáu i'r datblygwr droi'r adeilad yn llety gwyliau, gan ofyn i'r datblygwr addasu'r ffenest am resymau preifatrwydd.

Penderfynodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wrthod y cynllun, gan ddweud y byddai rhoi caniatâd "yn cyfleu'r neges anghywir".

Dywedodd y cyngor eu bod "wedi ysgrifennu at yr ymgeisydd i'w hysbysu o benderfyniad y pwyllgor ac yn ymchwilio i'r mater ymhellach".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl leol yn poeni bod yr adeilad ar y dde yn effeithio ar breifatrwydd

Roedd y cyngor cymuned lleol wedi gwrthwynebu'r cynlluniau gan ddweud y byddai'n "cael effaith niweidiol ar ardal fach, dawel yng nghefn gwlad Cymru".

Roedd "nifer fawr" o lythyron wedi eu hanfon gan bobl leol yn codi pryderon gan honni bod y datblygiad yn effeithio ar gartrefi eraill, yn difetha cymeriad yr ardal ac yn effeithio ar breifatrwydd pobl.

Roedd pryderon hefyd am fynediad i'r adeilad, traffig, sbwriel a sŵn.

Ond roedd swyddogion cynllunio'n dadlau nad oedd y datblygiad "yn rhy fawr ar gyfer llety gwyliau" ac nad oedd yn effeithio ar nifer y tai oedd ar gael i bobl yn yr ardal.

Cyfle i addasu'r ffenest

Dywedodd y swyddog cynllunio Keira Sweenie ei fod "yn cadw at y polisi" cynllunio ac er bod y gwaith datblygu wedi ei gwblhau cyn cael caniatâd cynllunio, roedd Ms Sweenie'n nodi "nad oedd hynny'n reswm dilys dros wrthod" y cais.

Roedd swyddogion cynllunio wedi ystyried y cais ym mis Ionawr ac fe gafodd y datblygwr, medden nhw, gyfle i addasu'r ffenest.

Roedd swyddogion hefyd wedi gofyn "sawl gwaith" am ddogfennau oedd yn nodi rheolau gweithredu'r uned gwyliau - er mwyn tawelu pryderon cymdogion - "ond chafodd hynny ddim ei gyflwyno".

Er bod Ms Sweenie yn cydnabod bod pryderon yn lleol nad oedd unrhyw newid i'r cais gwreiddiol, dywedodd eu bod nhw'n dal i argymell y dylai gael ei gymeradwyo.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Yr adeilad y tu allan, cyn iddo gael ei ddatblygu

Dywedodd y cynghorydd lleol, Elwyn Jones bod yr adeilad wedi ei ddatblygu "heb unrhyw fath o gais cynllunio" a'i fod "yn effeithio ar nifer o adeiladau gerllaw".

"Y neges yma ydy, os ydach chi'n ansicr, gwnewch o beth bynnag, peidiwch ymateb, a bydd popeth yn iawn yn y pen draw. Dyna be' dwi'n weld sydd wedi digwydd yma.

"Mi welais i'r adeilad gwreiddiol, ac yn sicr nid dyma ei uchder gwreiddiol - ond does dim modd profi hynny rŵan achos mae'r datblygiad wedi ei gwblhau.

"Fel arfer, os fyddai cais arferol wedi dod i fewn fel hyn, o ystyried ei leoliad a'r adeilad, dwi bron yn sicr y byddai wedi cael ei wrthod."

'Ydy o'n iawn yn foesol?'

Wrth wrthod y cais, dywedodd y Cynghorydd Gruff Williams: "Pan gafodd ei gyflwyno'r tro diwethaf, wnaethon ni ddim gofyn am bâr o lenni, mi wnaethon ni ofyn iddyn nhw flocio'r ffenestri fel nad oedden nhw'n edrych ar adeiladau eraill ond doedd y datblygwr ddim yn poeni am ein penderfyniadau ni."

Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes "nad oedd hi'n hapus o gwbl" gan ychwanegu bod y datblygwr "wedi anwybyddu'r broses gynllunio".

Ychwanegodd: "Mi wnaeth o hefyd anwybyddu pryderon pobl leol oedd yn byw drws nesa. Mi es i i'r safle ac mae'r ffenest yn enfawr, a ddim yn cyd-fynd efo cymeriad yr ardal."

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Jones bod y ffenest fawr yn "erchyll".

Mae'r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn dweud bod y ffordd "yn gul" a bod y ffenest "yn edrych dros adeiladau eraill".

Ychwanegodd: "Efallai ei fod yn cyd-fynd efo'r rheolau ond ydy o'n iawn yn foesol?"

Pleidleisiodd pump cynghorydd o blaid gwrthod y cais, a phedwar yn erbyn.

Pynciau cysylltiedig