Dyn 25 oed o Wynedd wedi marw ar ôl disgyn o falconi ym Malta

Fe ddigwyddodd y digwyddiad yng ngwesty Cavalieri Art
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc 25 oed o Wynedd wedi marw ar ôl iddo ddisgyn o falconi gwesty ym Malta yn gynnar fore Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu ym Malta eu bod nhw wedi cael eu galw i Triq Spinola, St Julien's tua 4:15 fore Gwener (11 o Orffennaf).
Fe ddigwyddodd y digwyddiad yng ngwesty Cavalieri Art.
Fe wnaeth aelodau'r tîm meddygol gadarnhau y bu farw'r dyn ar y safle.
Ychwanegwyd bod ymholiadau cychwynnol yn awgrymu bod y dyn ifanc wedi marw ar ôl iddo ddisgyn o falconi.
Mewn datganiad dywedodd Sian Gwenllian, aelod o'r senedd dros Arfon: "Mae'r newyddion am farwolaeth dyn 25 oed o Wynedd ym Malta yn wirioneddol erchyll.
"Mae'n gwbl amhosibl dirnad poen y teulu. Rydw innau, ynghyd â gweddill pobl Gwynedd yn meddwl amdanynt yn eu galar".
Mae'r ymchwiliad ym Malta i'r farwolaeth yn parhau.