Cadarnhau pla cimwch yr afon ger Llanfair-ym-Muallt
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad fod pla sy'n lladd cimychiaid prin wedi ei ganfod yn un o afonydd y canolbarth.
Fe gyhoeddodd Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyngor i bobl gadw draw o Afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt wedi i nifer o gimychiaid prin gael eu darganfod yn farw yn y dŵr ddiwedd Mehefin.
Fe rybuddiodd y corff fod pla cimwch yr afon yn peri "bygythiad marwol i'r boblogaeth cimychiaid afon crafanc wen brodorol".
Mae CNC yn annog pobl i "aros allan o Afon Irfon" ac yn apelio arnyn nhw i ddilyn canllawiau wrth ddefnyddio dyfrffyrdd eraill yn yr ardal er mwyn sicrhau goroesiad y rhywogaeth.
Mae'r canllawiau'n cynnwys gwirio offer a dillad, glanhau popeth yn drylwyr, a sychu eitemau'n llwyr cyn mynd i gyrff dŵr eraill.
Dydy'r pla ddim yn cael effaith ar bobl, anifeiliaid anwes, da byw a mathau eraill o fywyd gwyllt, ond gan ei fod yn lledaenu mor hawdd mae'n bosib i gi drosglwyddo'r clefyd i gimychiaid wrth symud rhwng afonydd.
Dywed CNC nad yw'n bosib gwneud dim i drin y cimychiaid afon brodorol yn Afon Irfon - rhywogaeth "sydd mewn perygl ac yn cynnal iechyd dalgylch Gwy".
Y flaenoriaeth felly yw lleihau'r risg o ledaenu'r clefyd, a hwyluso'r broses i ailboblogi'r afon dros amser "ar ôl i'r clefyd beidio â bod yn yr afon bellach".
Dywedodd Jenny Phillips, Arweinydd Tîm Amgylchedd De Powys CNC, mai cimwch afon crafanc wen brodorol yw "un o'r rhesymau pam fod Afon Gwy wedi'i dynodi'n ardal gadwraeth arbennig" a dyna pam ei bod hi'n "hanfodol" i atal lledaeniad y pla i amddiffyn poblogaethau lleol eraill.
"Mae angen i bawb chwarae eu rhan i atal y pla rhag lledaenu drwy beidio â mynd i mewn i Afon Irfon a dilyn y protocol 'gwirio, glanhau, sychu' os ydych chi'n mynd i mewn i gyrff dŵr cyfagos yn yr ardal."