'Chwilio ar Facebook am inswlin oherwydd prinder'

Gwen Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwen Edwards o Ynys Môn yn byw gyda diabetes math 1

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc sy'n byw gyda diabetes math 1 yn galw am fwy o ymwybyddiaeth wedi iddi orfod troi at y cyfryngau cymdeithasol i gael gafael ar feddyginiaeth hanfodol.

Mae Gwen Edwards, 27 o Ynys Môn, yn gorfod cymryd inswlin ac wedi bod yn defnyddio Fiasp FlexTouch, sef math o inswlin sydd mewn pen tafladwy.

Cafodd hysbysiad prinder am gyflenwadau'r inswlin mae Gwen yn ei ddefnyddio ei anfon at bob meddygfa a fferyllfa yng Nghymru ar 4 Mawrth - ond doedd Gwen ddim yn ymwybodol o'r prinder.

Dywedodd y feddygfa mae Gwen yn mynychu nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw ar achosion unigol.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ni fydd fferyllfeydd cymunedol fel arfer yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol oherwydd "bydd y camau sy'n cael eu cymryd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn golygu nad yw mwyafrif y cleifion yn profi unrhyw amhariad ar gyflenwad eu meddyginiaethau".

'Bob dydd yn wahanol'

Cafodd Gwen ddiagnosis o diabetes pan oedd hi'n wyth oed, ac mae hi eisoes wedi siarad yn agored am y rhwystrau y mae hi wedi eu hwynebu yn byw gyda'r cyflwr.

"'Dwi'n gorfod rhoi inswlin sawl gwaith mewn diwrnod - bore, cinio, swper... neu os ydw i'n gweld fod fy ngwaed i'n uchel, 'dw i'n gorfod rhoi 'chydig bach o inswlin.

"Mae bob diwrnod yn wahanol - mae o gyd yn dibynnu beth ydy lefelau'r gwaed er mwyn rhoi'r inswlin."

Mae'r feddyginiaeth Fiasp FlexTouch y mae Gwen yn ei ddefnyddio yn dod mewn pen sy'n cael ei daflu ar ôl ei ddefnyddio.

Yn ôl Gwen, mae hi'n arfer gwneud cais am bresgripsiwn pythefnos cyn i'w meddyginiaeth fynd yn brin, ond yn ddiweddar daeth i'r amlwg bod problem gyda’r stoc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i Gwen gymryd inswlin sawl gwaith mewn diwrnod i reoli lefelau glwcos yn y gwaed

"O'dd rhaid i mi fynd i chwilio am inswlin, mi ddywedodd un chemist wrtha' i eu bod nhw wedi rhedeg allan a bod dim stoc o gwbl dim mwy, felly mi o'n i bach yn bryderus mod i yn bersonol heb gael gwybod am hyn."

Er y stoc isel, dywedodd Gwen nad oedd hi yn ymwybodol o'r prinder.

"Mi es i gyda'r presgripsiwn i lefydd eraill i chwilio am yr inswlin - pum chemist yn ddiweddarach ddaru nhw ddweud bod yr inswlin ddim mewn stoc o gwbl.

"Mi nes i ofyn pryd ga’i beth - ac mi ddywedon nhw nad oedd o ar gael o gwbl a'u bod nhw wedi stopio gwneud y beiros."

Dywedodd y feddygfa dan sylw nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw am achosion unigol. Dyw'r BBC ddim am eu henwi.

Troi at y cyfryngau cymdeithasol

Dywed Gwen ei bod wedi cysylltu â sawl fferyllfa ond heb gael unrhyw lwyddiant yn cael gafael ar feddyginiaeth.

Dyma hi felly’n troi at y cyfryngau cymdeithasol i ofyn am gymorth, ac mae hi'n dweud ei bod wedi derbyn nifer o negeseuon.

"'O'n i mor ddiolchgar mod i wedi cael inswlin gan hogan o'n i'n 'nabod," meddai.

"Ges i gymaint o negeseuon yn dweud fod pobl eraill dal heb gael gwybod fod pethau'n newid."

'Sut dwi heb glywed dim?'

Bellach mae Gwen yn galw am fwy o gyfathrebu ac ymwybyddiaeth o ba mor bwysig ydy inswlin i gleifion sy'n byw gyda diabetes.

"Mae 'na ddiffyg gwybodaeth wedi bod yn rywle, oherwydd dwi wedi darllen mwy fewn i'r peth ac mae 'na alert wedi bod ers mis Mawrth bod yr inswlin yn dechrau mynd yn brin.

"Y mwyaf dwi'n siarad efo pobl, mae hanner wedi clywed a hanner heb glywed bod yna brinder yn y feddyginiaeth.

"Mi oedd rhaid i mi neud status ar Facebook i chwilio am inswlin achos doedd gen i ddim byd ar ôl a dwi mor ddiolchgar o'r gymuned diabetes ges i gymaint o bobl yn cysylltu... yn dweud fod ganddyn nhw inswlin i fi.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na wahanol resymau posib dros brinder meddyginiaethau, yn ôl y fferyllydd Lowri Puw

Dywedodd Lowri Puw, sy'n fferyllydd ac yn aelod o Fwrdd Fferyllol Cymru, fod rhybudd wedi'i rannu gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod disgwyl i’r prinder barhau tan 2025.

"Mae'r Fiasp PenFill, felly y cartridges sy'n cael eu rhoi mewn pen sy'n gallu cael ei ailddefnyddio dal ar gael, ond yn aml iawn mae 'na broblemau yn y broses o gynhyrchu'r cynhwysion i roi yn y pen," meddai.

"Mae 'na wahanol resymau... mae meddyginiaeth yn gallu bod yn sownd mewn warws yn rhywle, mae nhw'n cael eu mewnforio.

"Mae 'na lot o wahanol resymau a lot o gamau yn y broses o gael meddyginiaeth i'r fferyllfa."

Ychwanegodd fod yna sawl peth allai cleifion diabetes ei wneud ond bod angen iddyn nhw gael sgwrs gyda fferyllydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Ni fyddai fferyllfeydd cymunedol fel arfer yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol ynghylch prinder meddyginiaethau oherwydd bydd y camau sy'n cael eu cymryd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn golygu nad yw mwyafrif y cleifion yn profi unrhyw amhariad ar gyflenwad eu meddyginiaethau.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhwythau chwaith fel arfer yn cyfleu gwybodaeth o'r fath yn uniongyrchol i gleifion am yr un rhesymau.

Er fod iechyd yn faes wedi'i ddatganoli, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw cynnal cyflenwadau meddyginiaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU mai eu blaenoriaeth yw sicrhau bod cleifion yn parhau i gael y triniaethau sydd eu hangen.

“Rydym yn gweithio gyda'r diwydiant, y GIG, ac eraill i helpu i ddatrys problemau cyflenwad cyn gynted â phosib a sicrhau bod cleifion yn parhau i gael mynediad at driniaeth amgen nes bod eu cynnyrch arferol yn ôl mewn stoc."